Cyllid gan y Loteri Genedlaethol i helpu mwy o gwsmeriaid i fynd ar-lein

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod ateb wedi sicrhau cyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, drwy ei rhaglen Arian i Bawb, i roi prosiect newydd ar waith o’r enw Cynhwysiant Digidol drwy Dechnoleg Hygyrch.

Bydd y prosiect yn helpu i ddileu rhwystrau i fynediad digidol drwy ddarparu offer a chymorth i’r cwsmeriaid y mae arnynt eu hangen. Yn ystod y ddwy flynedd nesaf, bydd y cyllid yn ein galluogi i gynorthwyo hyd at 100 o gwsmeriaid ateb â dyfeisiau digidol, a fydd yn eu helpu i gael mynediad i wasanaethau ar-lein, cadw mewn cysylltiad ag eraill, a magu hyder i ddefnyddio technoleg.

Wrth i fwy o wasanaethau symud ar-lein, rydym yn sylweddoli nad oes gan bawb fynediad i’r offer neu’r cymorth y mae arnynt eu hangen. Bydd y prosiect hwn yn helpu mwy o gwsmeriaid i gael mynediad i wasanaethau megis Fy Nghyfrif ateb, cael gafael ar wybodaeth a chymorth, a datblygu sgiliau digidol pob dydd.

Meddai Andrew Jenkins, Cydlynydd Lles Cymunedol yn ateb:

“Erbyn hyn, mae bod ar-lein yn rhan bwysig o fywyd pob dydd, ond rydym yn gwybod bod rhai cwsmeriaid yn wynebu rhwystrau wrth geisio cael mynediad i wasanaethau digidol. Bydd y cyllid hwn yn ein helpu i ddarparu’r dechnoleg a’r cymorth angenrheidiol i feithrin hyder ac annibyniaeth.

“Drwy ein cerbyd cynhwysiant digidol, Dot.e, gallwn ddod â chymorth yn uniongyrchol i gwsmeriaid yn eu cymunedau. Mae gan Dot.e ei lle hyfforddi ei hun, sy’n golygu y gallwn ddarparu help un i un gyda phethau megis sefydlu Fy Nghyfrif ateb, cael mynediad i wasanaethau ar-lein a datblygu sgiliau digidol. Rydym yn ddiolchgar dros ben i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am wneud hyn yn bosibl.”

Mae’r cyllid yn gam arall ymlaen yn ein hymrwymiad i greu cyfleoedd gwell i gwsmeriaid a sicrhau bod mwy o bobl yn gallu elwa o’r gwasanaethau a’r cyfleoedd sydd ar gael ar-lein.

Diolch o galon i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a’r sawl sy’n cymryd rhan yn y Loteri Genedlaethol, y mae eu cymorth yn golygu bod y prosiect hwn yn bosibl.

Cyhoeddwyd: 03/06/2026