Mae baneri a symbolau’n dweud llawer am bwy ydyn ni. Gallant uno pobl, gallant ennyn balchder yn y man yr ydym yn hanu ohono, a gallant wneud lle’n fwy lliwgar. Ond gallant hefyd fod yn amhriodol os cânt eu defnyddio mewn modd sy’n gwneud i bobl eraill deimlo’n anghyffyrddus. Yn ateb, rydym am i’n cymunedau deimlo’n fannau diogel, parchus a chroesawgar i bawb.
Yr hyn yr ydym yn gofyn i’n cwsmeriaid ei wneud
Os ydych yn bwriadu arddangos baner neu symbol yn eich cartref neu o’i amgylch, dyma’r ydym yn ei ddisgwyl gennych:
- Byddwch yn barchus bob amser: Osgowch unrhyw beth a allai bechu pobl eraill neu wneud iddynt deimlo nad ydynt yn perthyn.
- Peidiwch â gwahaniaethu yn erbyn neb mewn unrhyw ffordd: Mae unrhyw beth sy’n hyrwyddo hiliaeth, rhywiaeth, homoffobia neu safbwyntiau niweidiol eraill yn annerbyniol.
- Meddyliwch am gymuned: Dylai unrhyw beth a gaiff ei arddangos greu harmoni, nid rhaniadau.
- Byddwch yn ddiogel: Sicrhewch nad yw rhywbeth yr ydych yn ei arddangos yn blocio ffenestri neu lwybrau neu’n beryglus.
- Dilynwch reolau’n ymwneud â thenantiaeth a diogelwch: Bydd unrhyw beth sy’n torri telerau eich cytundeb, rheolau cynllunio neu ganllawiau diogelwch tân yn gorfod cael ei dynnu i lawr.
Beth sydd fel rheol yn iawn
Mae croeso i chi arddangos pethau fel:
- Baneri gwledydd (Cymru, y DU neu wledydd eraill)
- Baneri lleol neu ddiwylliannol
- Symbolau sy’n cynrychioli heddwch neu ddathliad
- Addurniadau gwyliau neu addurniadau tymhorol.
Beth sy’n annerbyniol
Ni fyddwn yn caniatáu unrhyw beth:
- Sy’n hyrwyddo casineb, braw neu safbwyntiau eithafol
- Sy’n cynnwys delweddau sy’n pechu pobl eraill neu sy’n gwahaniaethu yn eu herbyn
- Sy’n difrodi eiddo neu sy’n peryglu pobl eraill
- Sy’n cael ei roi mewn ardaloedd cyffredin neu yn unrhyw fan lle gallai achosi tensiwn yn y gymuned.
Ble a sut y gellir arddangos baneri
- Gallwch arddangos baneri neu symbolau y tu mewn i’ch cartref neu’r tu allan iddo ar eich eiddo eich hun, cyhyd â’u bod yn bodloni’r disgwyliadau uchod.
- Gallai gosodiadau mwy o faint neu barhaol – megis polion baneri – gael eu hystyried yn newidiadau strwythurol, ac efallai y bydd angen caniatâd arnoch yn gyntaf. Cliciwch yma i wneud cais am fân addasiad.
- Ni chaniateir graffiti, a byddant yn cael eu glanhau. Fodd bynnag, os bydd cymuned am archwilio’r posibilrwydd o gael murlun, drwy Ymddiriedolaeth ateb neu gyllid arall, byddwn bob amser yn barod i sgwrsio am hynny.
- Os byddwn yn cael cwyn, byddwn yn ymchwilio iddi’n deg ac yn dilyn ein polisïau. Caiff pob sefyllfa ei hasesu’n unigol.
- Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i chi gael gwared ar unrhyw arddangosfa sy’n methu â bodloni’r disgwyliadau hyn.
Cydweithio
Mae ein nod yn syml: creu cymunedau lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu parchu, yn teimlo’n ddiogel ac yn teimlo’n rhan o rywbeth da. Os nad ydych yn siŵr a ddylech arddangos rhywbeth neu beidio neu os hoffech gael rhywfaint o gyngor, cysylltwch â ni. Rydym yma i helpu.

