
Diweddarwyd ar: 20/08/2021
Mae ein gwasanaeth atgyweirio yn ôl i normal.
Gallai fod rhywfaint o oedi wrth gyflawni’r gwaith hwnnw oherwydd ein bod yn dal i roi blaenoriaeth i waith brys ac archwiliadau diogelwch ac ar yr un pryd yn ceisio clirio’r ceisiadau blaenorol sydd wedi ôl-gronni am waith nad yw’n waith brys.
Rydym yn deall y gallech fod yn teimlo’n bryderus o hyd ynghylch y ffaith bod gwaith atgyweirio’n ailddechrau yn eich cartref. Pan fydd aelod o’n tîm neu gontractwr yn ymweld â’ch cartref byddant yn dal i roi gwybod i chi ymlaen llaw am eu hymweliad, byddant yn cadw pellter diogel rhyngoch a byddant yn dilyn gweithdrefnau llym ar gyfer sicrhau hylendid. Gwyliwch ein fideo defnyddiol ynghylch beth i’w ddisgwyl pan fyddwn yn ymweld â’ch cartref.
Byddwn yn dal i osgoi gwneud gwaith atgyweirio mewn unrhyw gartref lle mae pobl yn hunanynysu, oni bai mai diben y gwaith yw ymateb i argyfwng. Os felly, byddwn yn parhau i gyflawni’r gwaith yn unol â’n hasesiadau risg a’n canllawiau diogelwch.
Dylech ofyn am waith atgyweirio gan ddilyn y drefn arferol ond cyn gwneud hynny dylech wirio a yw’n rhywbeth sy’n gyfrifoldeb i’r landlord neu’n gyfrifoldeb i’r tenant.
Rydym wedi ailddechrau ar ein rhaglen o welliannau arfaethedig, allanol a mewnol, ond gallai fod rhywfaint o oedi wrth gyflawni’r gwaith hwnnw tra byddwn yn clirio’r gwaith sydd wedi ôl-gronni ers 2020.