Mae cwsmeriaid yn De Clare Court wedi dechrau creu man awyr agored newydd sy’n harddach ac yn fwy croesawgar, diolch i gymorth gan Roscoe Tree Services yn rhan o Raglen Budd Cymunedol 2026 y cwmni.
Ardal y gylchfan o flaen De Clare Court yw’r argraff gyntaf y mae cwsmeriaid, ymwelwyr ac aelodau’r cyhoedd yn ei chael o’r lle. Gydag amser, doedd yr hen addurn dŵr ddim yn gweithio ac roedd yn anodd ei gynnal a’i gadw, felly roedd y man awyr agored yn edrych yn flinedig ac wedi tyfu’n wyllt.
Diolch i’r gwaith a gyflawnwyd gan Roscoe Tree Services, mae’r man dan sylw wedi’i drawsnewid erbyn hyn yn ardal y gall y cwsmeriaid ymfalchïo ynddi unwaith eto.
Roedd y prosiect yn golygu symud yr hen ffynnon a pharatoi’r man ar gyfer ardal newydd gyfeillgar i’r amgylchedd, drwy blannu hadau blodau gwyllt. Nod y gwelliannau hyn yw creu amgylchedd hamddenol a deniadol sy’n cefnogi lles, yn hybu bioamrywiaeth ac yn annog bywyd gwyllt lleol i ffynnu.
Cafodd y gwaith ei gyflawni’n rhan o Raglen Budd Cymunedol Roscoe Tree Services, sy’n canolbwyntio ar roi rhywbeth yn ôl i gymunedau lleol drwy gymorth ymarferol. Gall hynny gynnwys gwella mannau a rennir, cynorthwyo grwpiau cymunedol a chynnig amser, llafur, deunyddiau ac offer y cwmni.
Yn De Clare Court, darparodd Roscoe Tree Services gymorth mewn da drwy gyfrannu amser, llafur ac offer y staff i helpu i ddod â’r prosiect yn fyw.
Bu’r cwsmeriaid yn sôn faint y mae’r gwelliannau yn ei olygu iddynt. Meddai un ohonynt:
“Doedd y ffynnon ddim yn gweithio ers amser, ac mae wedi bod yn broblemus erioed. Yn y diwedd, roedd yr ardal wedi mynd i edrych yn anniben ac wedi tyfu’n wyllt.”
Mae’r gwelliannau eisoes wedi dechrau ysbrydoli pobl ar draws y safle, ac mae’r staff arlwyo’n edrych ymlaen at weld y man dan sylw’n datblygu:
“Rwy’n edrych ymlaen at weld y blodau’n tyfu. Rwy’n bwriadu ychwanegu hadau pabi a glas yr ŷd er mwyn i ni allu eu mwynhau bob blwyddyn.”
Cafodd y gwaith ei gwblhau gan Roscoe Tree Services drwy Raglen Budd Cymunedol y cwmni, sy’n canolbwyntio ar roi rhywbeth cadarnhaol yn ôl i gymunedau lleol drwy gymorth ymarferol, gwelliannau i fannau a rennir, ac amser ac adnoddau a roddir.
Meddai Ben o Roscoe Tree Services:
“Rwy’n falch o helpu os gallaf. Rwy’n neilltuo ambell ddiwrnod bob blwyddyn i roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned. Rydym yn gweithio ar ystod o brosiectau, o ysgolion i wahanol eiddo gydag ateb a’r Cyngor. Mae bob amser yn braf rhoi rhywbeth yn ôl.”
Gall gwelliannau bach wneud gwahaniaeth mawr. Drwy greu mannau awyr agored deniadol a chroesawgar, mae prosiectau fel hyn yn helpu i feithrin balchder cymunedol ac yn hybu lles a’r amgylchedd lleol ar yr un pryd.
Rydym yn edrych ymlaen at weld sut y bydd yn datblygu.




