Yn ddiweddar, rydym wedi croesawu cwsmeriaid i 26 o gartrefi newydd sbon ym Mharc Maen Hir yn Nhreletert. Roedd yn achlysur arbennig i bawb dan sylw ac yn gam pwysig tuag at greu cymuned gysylltiedig sy’n tyfu.
Mae’r cartrefi hyn wedi cael eu gosod drwy ein polisi gosod tai i bobl leol, sy’n helpu pobl y mae ganddynt gysylltiadau cryf â’r ardal i aros yn agos i’w teulu, eu gwaith a’r mannau sy’n annwyl iddynt.
Mae’r cartrefi wedi’u dylunio gan ystyried ffyrdd modern o fyw. Maent yn fannau golau, effeithlon o ran ynni, sy’n cynnig lle i bobl ymgartrefu, teimlo’n gyffyrddus a gosod eu stamp eu hunain arno.
Cyn y diwrnod symud, cafodd y cwsmeriaid eu gwahodd i gyflwyniad grŵp yn Neuadd Goffa Treletert. Mae’n ddull newydd o weithredu yr ydym wedi’i gyflwyno er mwyn helpu i wneud y broses o symud i mewn yn haws ac yn fwy hwylus a chefnogol.
Yn ystod y sesiwn, cafodd gwaith papur allweddol ei gwblhau ymlaen llaw, a wnaeth helpu i leihau’r pwysau ar y diwrnod ei hun. Roedd hefyd yn gyfle i’r cwsmeriaid gwrdd â’u cymdogion newydd am y tro cyntaf, ac yn gyfle cynnar iddynt ddechrau dod i adnabod ei gilydd a chreu ymdeimlad o gymuned.
Roedd aelodau o dîm ateb wrth law hefyd i arwain y cwsmeriaid drwy wahanol agweddau ar eu cartrefi a chyflwyno Fy nghyfrif ateb, a’u helpodd i deimlo eu bod yn cael cymorth a gwybodaeth a’u bod yn teimlo’n hyderus o’r dechrau’n deg.
Pan ddaeth y diwrnod symud, yr elfen bwysicaf oedd yr eiliad yr oedd y cwsmeriaid wedi bod yn edrych ymlaen ati – sef casglu eu hallweddi a chamu drwy ddrws eu cartref newydd.
I lawer, roedd yn eiliad o gyffro a rhyddhad ac o ddechrau rhywbeth newydd.
Meddai un cwsmer newydd: “Mae’n olau iawn, ac rwy’n falch dros ben o gael fy nghartref a’m gardd fy hun – rydw i wrth fy modd.”
Meddai cwsmer arall wedyn: “Mae mor fawr ac yn neis iawn i deulu newydd. Mae’r gegin yn fawr ac mae’r ardd yn wirioneddol braf hefyd. Rwy’n edrych ymlaen at eistedd ar y soffa ac at ymlacio yn fy nghartref newydd.”
Roedd yna ymdeimlad go iawn o falchder ymhlith aelodau o dîm ateb hefyd. Meddai Gareth, Cydlynydd Tai yr ardal: “Rwy’n teimlo’n falch dros ben. Mae safon y gwaith a’r gorffeniad yn y cartrefi hyn yn drawiadol – maent yn gartrefi gwych, ac rwy’n wirioneddol hapus dros bobl Treletert, a bod cymaint o bobl sydd â chysylltiadau lleol yn symud i mewn.”
Mae’r datblygiad ei hun wedi cael ei ystyried yn ofalus, nid yn unig o safbwynt y cartrefi ond o safbwynt yr amgylchedd ehangach hefyd.
Meddai Nick, Rheolwr y Prosiect Datblygu: “Un o fy hoff nodweddion yw amgylchedd y strydoedd. Mae’n braf gweld datblygiad sy’n cynnwys mwy na choncrit a tharmac – mae’n cynnwys llawer o nodweddion tirlunio cyfoethocach a phlanhigion yn eu llawn dwf sy’n helpu i liniaru effaith y datblygiad.”
Drwy neilltuo amser i gynorthwyo’r cwsmeriaid cyn iddynt symud i mewn, a thrwy ddarparu cartrefi o safon mewn lleoliad sydd wedi’i ddylunio yn feddylgar, mae Parc Maen Hir yn dechrau teimlo fel rhywbeth mwy na datblygiad yn barod – mae’n troi yn fan lle gall pobl deimlo’n wirioneddol gartrefol.




