Creu lle i gael sgyrsiau gonest am y menopos

Mae’r menopos yn rhywbeth y mae llawer o bobl yn dal i deimlo’n anghyffyrddus wrth ei drafod. Yn rhy aml, caiff ei drafod yn dawel neu ni chaiff ei drafod o gwbl. Yn ateb, rydym am helpu i newid hynny.

Yn ddiweddar, gwnaethom ymuno â Heidi o Positive Thinking i gyflwyno cyfres o weithdai ymwybyddiaeth o’r menopos ar gyfer aelodau’r tîm a rheolwyr llinell. Bu’r sesiynau yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth, annog sgyrsiau agored, ac archwilio’r cymorth a all wneud gwahaniaeth go iawn yn y gweithle.

Creodd y gweithdai le croesawgar a chefnogol i fenywod sy’n profi amryw gyfnodau’r perimenopos a’r menopos, er mwyn iddynt rannu profiadau, dysgu mwy am y newidiadau y gallent fod yn eu hwynebu, a chlywed gan fenywod eraill sydd ar siwrnai debyg.

At hynny, roedd y sesiynau o gymorth i reolwyr llinell ddeall y menopos yn well a deall pwysigrwydd creu gweithleoedd cefnogol a deallus lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a bod rhywun yn gwrando arnynt.

Mae’r gwaith hwn yn rhan o’n Hymrwymiad Tîm ac yn rhan o’n ffocws parhaus ar greu’r diwylliant iawn er mwyn i’n timau ffynnu.

Dywedodd un aelod o’r tîm a oedd yn bresennol fod y gweithdai’n werthfawr, yn rymusol ac weithiau’n emosiynol, a dywedodd fod y sesiynau wedi’i hannog i wneud newidiadau er gwell ar ei chyfer hi ei hun yn y dyfodol.

Meddai Heidi, a arweiniodd y gweithdai:

“Roedd lefel yr ymgysylltu’n dda iawn drwyddi draw, a bu’r cyfranogwyr yn cyfrannu’n agored i drafodaethau gan fyfyrio am eu profiadau eu hunain, ac yn cynorthwyo ei gilydd mewn modd a oedd yn parchu ac yn grymuso pawb.

“Fy nod oedd addysgu a grymuso menywod, a chreu lle saff ar yr un pryd i sgyrsiau gonest am y menopos. Roedd yn galonogol dros ben gweld bod y cyfranogwyr yn teimlo eu bod yn gallu archwilio a rhannu eu profiadau’n agored.

“Helpodd y sgyrsiau hyn i normaleiddio siwrnai’r menopos a lleihau’r teimladau o unigrwydd neu stigma sy’n gallu bodoli weithiau yng nghyswllt y pwnc.

“At ei gilydd, llwyddodd y gweithdai i hybu ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a hyder, gan dynnu sylw hefyd at bwysigrwydd cael gweithleoedd cefnogol a deallus.

Drwy ddechrau sgyrsiau am y menopos, rydym yn gobeithio parhau i feithrin diwylliant lle mae pobl yn teimlo’n ddigon cyffyrddus i ofyn am gymorth, rhannu profiadau a gwybod nad ydynt ar eu pen eu hunain.

Cyhoeddwyd: 12/05/2026