Tîm dan 6 oed Milford Athletic yn camu i’r cae mewn steil gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth ateb

Mae chwaraewyr ifanc Milford Athletic yn camu i’r cae mewn steil ar ôl cael siacedi newydd ar gyfer y tîm, a ariannwyd gan Ymddiriedolaeth ateb.

Mae’r tîm dan 6 oed eisoes yn gwneud defnydd da ohonynt – drwy hyfforddi, chwarae, a magu hyder gyda’i gilydd. Yn ogystal â chadw’r chwaraewyr yn gynnes, mae’r siacedi hefyd yn helpu i greu ymdeimlad cryf o berthyn ac o ysbryd tîm.

Cefnogi cymunedau lleol

Mae Ymddiriedolaeth ateb yn cefnogi prosiectau sy’n gwneud gwahaniaeth er gwell ar draws cymunedau ateb. Drwy fuddsoddi mewn grwpiau lleol megis Milford Athletic, mae’r Ymddiriedolaeth yn helpu i ddod â phobl ynghyd, magu hyder, a chreu cyfleoedd i bawb.

Mae chwaraeon ar lawr gwlad yn chwarae rôl bwysig o ran hynny – drwy helpu pobl ifanc i barhau’n actif, gwneud ffrindiau, a datblygu sgiliau pwysig ar gyfer bywyd.

Gwneud cais am gyllid gan Ymddiriedolaeth ateb

Mae’r rownd nesaf ar gyfer cyflwyno cais i Ymddiriedolaeth ateb yn agor ym mis Gorffennaf.

Os ydych yn rhan o grŵp sy’n gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Cyhoeddwyd: 22/04/2026