Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru yn dathlu 10 mlynedd o wneud gwahaniaeth

Daeth aelodau tîm Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru ynghyd yn ddiweddar i gynnal eu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a oedd yn nodi carreg filltir arbennig – sef 10 mlynedd o gynorthwyo pobl hŷn ac agored i niwed i fyw’n ddiogel ac yn annibynnol gartref.

Roedd y diwrnod yn gyfle i ddathlu llwyddiannau ac yn gyfle i edrych i’r dyfodol. Bu’r sgyrsiau a gafwyd yn canolbwyntio ar sut y bydd y gwasanaeth yn datblygu yn ystod y chwe blynedd nesaf, ac roedd anghenion cwsmeriaid, arloesi digidol a nodau amgylcheddol yn uchel ar yr agenda. O archwilio’r defnydd o faniau trydan mewn ardaloedd gwledig i feithrin prentisiaethau a sicrhau cyflogau cystadleuol, pwysleisiodd y tîm bwysigrwydd sicrhau cydbwysedd rhwng tyfu a chynnal yr ethos cryf sy’n golygu bod Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru bob amser wedi bod yn unigryw.

Bu Elaine, y siaradwr gwadd a Chadeirydd y Bwrdd, yn myfyrio ynghylch ei chyfnod gyda’r sefydliad, gan ddwyn i gof yr egni cadarnhaol sydd wedi bod yn rhan annatod ohono ers y dechrau. Tynnodd sylw at bwysigrwydd cysondeb ar draws Sir Benfro a Cheredigion, yr heriau a wynebwyd yn ystod y pandemig, a’r modd y bu aelodau’r tîm yn gweithio mewn partneriaeth â’r GIG a sefydliadau eraill i ymateb yn gyflym i anghenion cymunedau.

Ers hynny mae’r gwasanaeth wedi parhau i dyfu, a gwelwyd cynnydd o 18% yn y galw. Yn ogystal, mae partneriaethau cryf ag awdurdodau lleol, sefydliadau iechyd ac elusennau megis Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro wedi helpu’r sefydliad i gyrraedd mwy o bobl sydd mewn angen.

Ond y tu ôl i’r rhifau mae straeon go iawn pobl y mae eu bywydau wedi cael eu trawsnewid. Un enghraifft ddiweddar yw Meinir y gwnaeth Tîm Gofalwyr a Chymorth Cymunedol Cyngor Ceredigion ei chyfeirio at Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru yn 2024.

Mae Meinir yn byw yn ei chartref cerrig, sy’n sefyll ar ei ben ei hun, ers dros 28 o flynyddoedd, ac roedd parhau’n ddiogel ac yn annibynnol gartref yn hollbwysig iddi. Fodd bynnag, roedd amryw gyflyrau iechyd yn dechrau golygu bod cyflawni gweithgareddau o ddydd i ddydd yn anodd iddi. Dyna pryd y cafodd ei chyflwyno i Heulwen, sef gweithiwr achos a gynhaliodd Asesiad Diogelwch Cartref cyflawn o’i chartref.

Arweiniodd yr asesiad at nifer o welliannau ymarferol a oedd yn cynnwys gosod canllawiau, hanner grisiau, a chloch drws arbenigol ar gyfer pobl drwm eu clyw a oedd yn gwneud i declyn galw ddirgrynu. Mae Heulwen hefyd wedi bod yn cynorthwyo Meinir i wneud cais am Lwfans Gweini, a olygodd bod Meinir yn cael y swm uchaf y gellir ei ddyfarnu ac a arweiniodd yn fwy o incwm wythnosol iddi.

Ar ôl iddi gael ei chyfeirio at y gwasanaeth Hynach Nid Oerach, medrodd Iwan gael cyllid grant i atgyweirio Rayburn Meinir, sef y brif ffynhonnell o wres yn ei chartref. Gwnaeth hefyd gynnal archwiliadau â mesurydd lleithder gan roi tawelwch meddwl i Meinir mai anwedd, a dim byd mwy difrifol na hynny, oedd achos ei phryderon.

Mae’r gwahaniaeth yn ansawdd bywyd Meinir wedi bod yn enfawr. Meddai Meinir ei hun: “Oni bai am Heulwen, dwi ddim yn siŵr ble byddwn i’n awr.”

Wrth i Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru edrych i’r dyfodol, mae ei ffocws yn parhau’n glir: parhau i feithrin partneriaethau a chynorthwyo cwsmeriaid, a glynu wrth y positifrwydd a’r gwaith tîm sydd wedi’i ddiffinio yn ystod y degawd diwethaf.

Oherwydd, fel y cytunodd aelodau’r tîm, y peth pwysicaf yw sicrhau bod pobl yn dal i ganmol ymhen pum mlynedd arall.

I gael rhagor o wybodaeth am Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru a’r gwasanaethau a gynigir ganddo, ewch i’w wefan.

Cyhoeddwyd 24/09/2025