Yn rhan o ymrwymiad ateb i wella effeithlonrwydd ynni ym mhob un o’n cartrefi, mae 14 o gartrefi yn Ffynnon Wen wedi cael systemau paneli solar newydd yn ddiweddar drwy ein rhaglen ôl-osod er budd yr amgylchedd.
Mae’r buddsoddiad hwn yn rhan o’n cynllun ehangach i sicrhau bod cartrefi’n fwy cynnes a fforddiadwy i’n cwsmeriaid ac yn fwy caredig i’r amgylchedd.
Pa waith a gafodd ei gyflawni?
Bu’r gwaith ôl-osod yn canolbwyntio ar osod paneli solar ffotofoltäig mewn 14 o gartrefi. Bwriedir i’r paneli hyn fanteisio ar ynni’r haul, a helpu i gynhyrchu trydan a ddefnyddir o ddydd i ddydd a lleihau dibyniaeth ar y grid.
Cafodd yr holl waith ei gwblhau gan ein contractwyr dibynadwy, a chymerwyd pob gofal i darfu cyn lleied ag a oedd yn bosibl ar y preswylwyr.
Pam y gwnaethon ni hyn?
Mae ynni’n dal yn ddrud, ac rydym yn gwybod bod llawer o’n cwsmeriaid dan bwysau. Mae gosod paneli solar yn un o’r ffyrdd y gallwn helpu aelwydydd i arbed arian ar eu biliau a lleihau eu hôl troed carbon ar yr un pryd.
Mae’r prosiect hwn yn hybu ein nodau parhaus o ran cynaliadwyedd ac yn sicrhau bod ein cartrefi’n dal i gyrraedd safonau modern.
Rydym wedi cael £1 filiwn ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, a bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i osod rhagor o baneli solar a batris mewn dros 100 o gartrefi. Cadwch eich llygaid yn agored am y newyddion diweddaraf am gynnydd!
Straeon Go Iawn, Effaith Go Iawn
Beth oedd barn ein cwsmeriaid?
Bu Kathleen, un o’n cwsmeriaid yn Ffynnon Wen, yn sôn wrthym am ei phrofiad o gael paneli wedi’u gosod.
“Roeddent yn fechgyn hyfryd – roeddent yn gwrtais ac yn dangos parch,” meddai. “Roedd y gwaith braidd yn swnllyd, a bu’n rhaid i fi fynd â’r cŵn i gartref fy merch oherwydd bod un ohonynt yn ofnus, ond roedd y gweithwyr yn dda. Roedd y rheolwr yn gefnogol hefyd – pan oedd rhywbeth yn fy mhoeni, byddai’n datrys y mater yn syth.”
Er bod y gwaith wedi tarfu rhywfaint arni ar y pryd, dywedodd Kathleen fod y manteision yn dechrau dod i’r amlwg yn barod:
“Dyw fy mesurydd trydan heb fynd i’r coch ers i’r paneli gael eu gosod. Mae gen i fwy o gredyd nawr, a dydw i ddim wedi gorfod troi’r gwres ymlaen gymaint.”
A’i chyngor i bobl eraill?
“Byddwch yn barod ar gyfer y diwrnod pan fyddant yn cyrraedd. Achosodd y gwaith dipyn o ffwdan ond roedd yn werth y drafferth yn y diwedd – ac rwy’n ddiolchgar amdano.”
Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud?
Mae braidd yn gynnar i ddweud, ond mae cwsmeriaid fel Kathleen eisoes yn gweld arbedion gwirioneddol. Mae ein cwsmeriaid wedi sôn am filiau rhatach, mwy o gysur, a llai o ddibyniaeth ar eu systemau gwresogi ers i’r paneli gael eu gosod.
Drwy ddefnyddio ynni adnewyddadwy, mae cartrefi yn Ffynnon Wen yn cyfrannu’n awr at ddyfodol mwy gwyrdd i’n cymunedau — ac yn helpu i leihau effaith y newid yn yr hinsawdd.
Cam ymlaen er gwell
Crynhodd Kathleen ei phrofiad drwy feddwl am y darlun ehangach:
“Pam na ddylwn i fod yn ddiolchgar? Roedd yn rhad ac am ddim, ac rwyf eisoes yn arbed arian. Erbyn hyn, rwy’n teimlo bod y cyfan wedi bod yn werth y drafferth.”
Rydym yn parhau i wella effeithlonrwydd ynni yn ein cartrefi ar draws y gorllewin, ac rydym yn bwriadu gwneud mwy o waith ôl-osod yn y dyfodol agos. Os ydych yn un o gwsmeriaid ateb ac os hoffech ddysgu mwy am welliannau yn y dyfodol ym maes arbed ynni, cadwch olwg ar dudalen Sero Net ateb ar y we.