Cysylltu â chwsmeriaid yn Noc Penfro

Yr wythnos diwethaf, roeddem yn ôl allan yn ein cymunedau yn rhan o ymweliad arall gan ateb. Bwriad yr ymweliad oedd cysylltu â’n cymunedau a chael gwybod beth sy’n bwysig iddynt – yn Penfro Place yn Noc Penfro y tro hwn.

Ymunodd ein Cydlynwyr Tai â’r digwyddiad, gan sôn wrth ein cwsmeriaid am sut y gallwn gydweithio â’n gilydd i wella ymgysylltu ac ysbryd cymunedol yn y stryd. Fel bob amser, roedd yn gyfle gwych i ofyn sut mae ein cwsmeriaid yn teimlo, cynnig cymorth, a darganfod beth sydd bwysicaf iddynt.

Cawsom gwmni rhai o aelodau eraill tîm ateb hefyd. Daeth Andrew, ein Cydlynydd Lles Cymunedol, draw gyda Dot.e – ein canolfan cymorth digidol – i gynnig cymorth digidol, arweiniad a chyngor am ddim i bwy bynnag oedd angen cymorth o’r fath.

Roedd Ali, ein Cydlynydd Ymgysylltu, wrth law i siarad â’n cwsmeriaid am sut y gallant gymryd rhan yn fwy helaeth yn ateb – sy’n cynnwys ymuno â’n fforwm cwsmeriaid, rhannu adborth drwy arolygon, neu lywio ein gwasanaethau hyd yn oed, drwy ein rhaglen Ymgysylltu i Wella. I gael gwybod mwy am sut y gallwch ddweud eich dweud a chymryd rhan, ewch i’n tudalen Ymgysylltu i Wella.

Fel bob amser, mae sgwrsio yr un mor bwysig â glanhau yn ystod y diwrnodau hyn. Wrth i ni grwydro o gwmpas, gwnaethom gwrdd â Danny – sef un o’n cwsmeriaid sy’n addysgu crefft ymladd yn wirfoddol yng Nghanolfan Hamdden Dinbych-y-pysgod ac sy’n wyneb cyfeillgar yn y gymuned leol.

Man and two women stood in street

Meddai Danny, “Rwy’n gweld pam y mae cynnal y diwrnodau hyn yn werthfawr, oherwydd mae pawb yn tueddu i fod yn breifat iawn. Drwy wneud hyn heddiw, efallai y byddwn yn annog pobl eraill i gymryd rhan a chwrdd â phobl newydd. Byddai hynny’n braf er mwyn gwella ein hysbryd cymunedol ni yma. Byddwn wrth fy modd hefyd yn gweld Cydlynwyr Tai yn cnocio ar ein drysau unwaith neu ddwywaith y flwyddyn i ofyn sut mae cwsmeriaid ateb ac i ddweud helô. Rwy’n credu y byddai hynny’n gwella sut yr ydym yn teimlo fel cwsmeriaid i ateb.”

Yn rhan o’n hymrwymiad i feithrin cydberthnasau cryfach â’n cymunedau, rydym yn cynyddu nifer ein hymweliadau â chymdogaethau. Ein nod yw cynnal o leiaf naw ymweliad bob chwarter – un yn ardal pob Cydlynydd Tai – a’n bwriad yw cynnal mwy fyth o ymweliadau wrth i’r rhaglen ddatblygu. Byddant yn ein helpu i gysylltu ag ardaloedd lle gallai ein cwsmeriaid fod yn wynebu heriau neu lle nad ydym wedi cael cymaint o gysylltiad yn ddiweddar, a byddant yn rhoi cyfle i ni wrando, cynnig cymorth a gwneud gwahaniaeth go iawn.

Diolch i bawb a ymunodd â ni ar y diwrnod – p’un a ddaethoch draw i ofyn am gyngor, cael sgwrs neu gynnig help llaw. Edrychwn ymlaen at drefnu rhagor o ddigwyddiadau fel hyn wrth i ni barhau i hybu cymunedau cryfach sydd â chysylltiadau gwell.