Newid bach yn gwneud gwahaniaeth mawr

Yn Barn Court, mae syniad syml wedi gwneud gwahaniaeth mawr i fywyd pob dydd cwsmeriaid sy’n defnyddio’r ardd gyffredin.

Roedd y cwsmeriaid wedi ychwanegu goleuadau solar er mwyn helpu i harddu’r man awyr agored a rennir, gan greu ardal y gallent ei mwynhau ac ymfalchïo ynddi. Fodd bynnag, oherwydd bod y tir yn cael ei gynnal a’i gadw yn rheolaidd, roedd angen i’r cwsmeriaid symud y goleuadau’n aml cyn y gellid torri’r glaswellt.

Wedi i’r contractwyr garddio newid, nid oedd y cwsmeriaid yn gwybod pryd yn union y byddai’r ymweliadau cynnal a chadw’n digwydd, a oedd yn ei gwneud yn anodd symud yr eitemau mewn pryd. Roedd hynny weithiau’n golygu bod y gwaith yn difrodi goleuadau neu’n tarfu ar arddangosfeydd.

Bu Sian, un o’r cwsmeriaid, yn esbonio:

“Mae gennym oleuadau solar yn yr ardd, ac fel rheol byddem yn eu symud ymlaen llaw. Ond yn aml, byddent yn dod heb ein bod yn gwybod pryd y byddent yno, yn enwedig pan nad oeddwn gartre i symud pethau. Byddai’r goleuadau’n cael eu difrodi, a byddai’r holl le’n edrych yn anniben.”

Ar ôl tynnu sylw at y broblem, ymwelodd Marilyn â’r safle i drafod atebion posibl â’r cwsmeriaid. Gyda’i gilydd, gwnaethant feddwl am y syniad o osod border pren syml i ddiffinio’n glir yr ardal a gâi ei chynnal a’i chadw gan y cwsmeriaid. Byddai hynny’n golygu bod modd gadael y goleuadau a’r potiau planhigion yn eu lle a bod modd parhau i gynnal a chadw’r tir o’u hamgylch.

Cafodd y gwelliant ei gyflawni’n sydyn ar y cyd â’r contractwyr Roscoe Tree Services, yn rhan o’u Rhaglen Budd Cymunedol.

“Doeddwn i ddim yn siŵr a fyddai unrhyw beth yn digwydd,” meddai Sian. “Yna, ryw fore, deffrodd fy mhartner a gweld bod Roscoe wedi gwneud y gwaith yn barod ben bore, drwy gynllun y cwmni. Roeddwn yn llawn edmygedd.”

Mae’r newid yn golygu nad oes angen yn awr i’r cwsmeriaid symud eitemau byth a hefyd cyn bod y glaswellt yn cael ei dorri, sy’n helpu i ddiogelu eiddo personol ac sy’n golygu ei bod yn haws mwynhau’r man dan sylw.

“Mae pethau gymaint yn haws yn awr. Does dim angen i ni symud y goleuadau mwyach. Gallant ddod i dorri’r glaswellt, a does dim angen i ni boeni o gwbl am hynny. Roedd yn wych – rwy’n hapus dros ben.”

Ers y gwelliannau, mae pobl yn bendant yn ymfalchïo mwy yn yr ardal. Maent wedi ychwanegu mwy o oleuadau solar a photiau planhigion, sydd wedi gwella’r naws yno’n gyffredinol, yn enwedig gyda’r nos pan fo’r goleuadau’n edrych ar eu gorau.

Er mai gwelliant bach ydyw, mae’n dangos sut mae gwrando ar gwsmeriaid a gwneud newidiadau ymarferol yn gallu cael effaith ystyrlon ar fywyd o ddydd i ddydd, ac yn gallu helpu pobl i deimlo’n fwy cyffyrddus, yn fwy hyderus ac yn fwy balch o’r mannau lle maent yn byw.

Cyhoeddwyd 28/05/2026