Grŵp ateb yn cefnogi Clwb Pêl-droed Llangwm Lions drwy ddatblygiad The Croft

Mae Grŵp ateb yn cefnogi Clwb Pêl-droed Llangwm Lions drwy noddi’r cit, yn rhan o’i ddatblygiad newydd o dai cymdeithasol yn The Croft, Llangwm.

Bydd The Croft yn darparu 67 o gartrefi newydd a fydd yn helpu i ddiwallu anghenion lleol o ran tai yn yr ardal. Bydd 22 o’r cartrefi hynny ar gael drwy gynllun rhanberchnogaeth, a byddant yn cael eu gwerthu gan Mill Bay Homes sy’n is-gwmni i Grŵp ateb. Bydd y cynllun yn cynnig ffordd fwy fforddiadwy i bobl leol brynu eu cartref cyntaf.

I nodi’r nawdd hwn, daeth Bradley o Glwb Pêl-droed Llangwm Lions i gyfarfod â thîm datblygu Grŵp ateb yn ddiweddar er mwyn iddynt gyflwyno dau grys i’r tîm. Mae rhif 67 ar y crysau, sydd wedi’i ddewis er mwyn cynrychioli cyfanswm y cartrefi sy’n cael eu hadeiladu yn The Croft ac er mwyn tynnu sylw at y cysylltiad agos rhwng y datblygiad a’r gymuned leol.

Meddai Daniel, Arweinydd Cartrefi Newydd Grŵp ateb:

“Mae cefnogi clybiau lleol yn rhan bwysig o’r modd yr ydym yn mynd ati i ddatblygu. Yn ogystal â darparu cartrefi o safon, rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi yn y cymunedau yr ydym yn adeiladu ynddynt ac i gydweithio â mudiadau lleol sy’n helpu i ddod â phobl ynghyd.

Drwy bartneriaethau fel hyn, ein nod yw sicrhau bod The Croft yn ychwanegiad cadarnhaol a pharhaol i gymuned Llangwm.”

Cyhoeddwyd : 24/12/25