Gweld y gwahaniaeth – Tickety Boo yn helpu i lanhau ffenestri ateb

Y pethau bychain, weithiau, sy’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf.

Yn rhan o Raglen Budd Cymunedol ateb, mae Tickety Boo sy’n gontractwr i ni ers amser wedi bod yn rhoi rhywbeth yn ôl drwy lanhau ffenestri cyffredin allanol sawl un o’n hadeiladau lle mae gennym fflatiau – gan helpu ein cwsmeriaid i fwynhau golygfeydd cliriach a glanach.

Ni chafodd Jennie a’i thîm gais i wneud hynny. Aethant ati’n syml iawn ar ôl sylwi ar gyfle i helpu.

“Rydym wedi bod yn glanhau ardaloedd cyffredin i ateb ers dros 21 o flynyddoedd,” esboniodd Jennie. “Wrth lanhau y tu mewn i’r adeiladau, gallem weld bod tu allan y ffenestri’n aml yn wyrdd oherwydd algâu. Er bod eu tu mewn wedi’i lanhau, gallai’r ffenestri edrych yr un mor frwnt ag yr oeddent cyn hynny.

“Roedd yr offer gennym yn barod, felly gwnaethom feddwl, pam lai?”

I aelodau’r tîm bach yn Tickety Boo, mae gwneud gwahaniaeth er gwell yn rhan naturiol o’u gwaith. Dros y blynyddoedd, maent wedi creu cydberthnasau parhaol â llawer o gwsmeriaid ateb.

“Rwyf wedi gweld plant y cwsmeriaid yn tyfu ac yn dechrau eu teulu eu hunain,” meddai Jennie. “Rydych yn dod i adnabod pobl ar hyd y blynyddoedd, ac mae’n braf gweld sut mae rhywbeth mor syml â ffenestri glân yn gallu gwneud i bobl deimlo’n well.”

Mae gan Tickety Boo hanes hir o gynorthwyo cymunedau lleol, y tu allan i waith y cwmni o ddydd i ddydd. Mae wedi bod yn rhoi teganau i Apêl Nadolig PATCH ac wedi bod yn rhoi nwyddau mislif i ysgolion lleol er mwyn mynd i’r afael â thlodi mislif.

Mae cyfraniad y cwmni drwy Raglen Budd Cymunedol ateb yn enghraifft arall o sut y mae cydweithio’n gallu creu atebion gwell o ran byw ar gyfer ein cymunedau.

Diolch o galon i Jennie a phawb yn Tickety Boo am eu cymorth parhaus ac am helpu ein cwsmeriaid i fwynhau cartrefi sy’n teimlo ychydig yn lanach.

Cyhoeddwyd 22/07/2026