Mynychodd aelodau o’n tîm Seminar ynghylch Bioamrywiaeth yn ddiweddar, yn rhan o’n Cynllun Dysgu a Datblygu a’n hymrwymiad parhaus i greu mannau y gall pobl a natur ffynnu ynddynt.
Cafodd y seminar ei chyflwyno gan Ant Rogers, Swyddog Gweithredu Bioamrywiaeth, gyda chymorth gan Becky, Swyddog Bioamrywiaeth Corfforaethol Cyngor Sir Penfro. Roedd yn gyflwyniad diddorol i fioamrywiaeth, yr heriau sy’n wynebu natur ar draws Cymru a’r DU, a’r rôl y gall sefydliadau megis ateb ei chwarae o ran hybu adfer natur.
Yn rhan o Bartneriaeth Natur Sir Benfro, rydym yn cydweithio â phartneriaid lleol i sicrhau bod meddylfryd cyfeillgar i fioamrywiaeth yn rhan o’r modd yr ydym yn dylunio, yn rheoli ac yn defnyddio mannau cyffredin. Bu’r sesiwn yn archwilio ffyrdd ymarferol y gall sefydliadau gael effaith gadarnhaol, a thynnodd sylw at gyfleoedd i ystyried natur yn ystod pob cam sy’n ymwneud â datblygu a rheoli asedau.
Meddai un o’r bobl a oedd yn bresennol wrth fyfyrio am werth y seminar:
“Roedd yn seminar gadarnhaol iawn yn gyffredinol. Roedd yn fodd i ni, fel sefydliad, ddeall yn well sut y gallwn wneud gwelliannau er budd bioamrywiaeth wrth adeiladu cartrefi newydd ac adnewyddu ein cartrefi presennol. Gwnaeth ein helpu i adnabod cyfleoedd i hybu bioamrywiaeth, y byddem fel arall yn eu colli efallai, a gwnaeth ein galluogi hefyd i ddeall yr amgylchedd sydd o’n cwmpas yn well a deall sut y mae ein gweithredoedd yn gallu effeithio arno.”
Rhoi bioamrywiaeth ar waith
Yn ogystal â dysgu a thrafod, mae’n bwysig gweld sut y mae bioamrywiaeth yn rhan o’n gwaith ar lawr gwlad yn barod.
Mewn prosiectau a gyflawnwyd yn ddiweddar, roedd hynny’n cynnwys plannu ardaloedd o flodau gwyllt ar gylchfannau er mwyn helpu peillwyr; ymgorffori blychau adar ac ystlumod yn ein cartrefi yn Saundersfoot; a dylunio ffensys â “llwybrau draenogod” er mwyn galluogi creaduriaid gwyllt bach i symud yn ddiogel o’r naill ardd i’r llall.
Mae’r camau bach ond bwriadol hyn yn dangos sut y gellir cynnwys bioamrywiaeth mewn penderfyniadau pob dydd – o waith tirlunio a mannau gwyrdd i’r modd yr ydym yn dylunio datblygiadau newydd ac yn rheoli ein cymunedau presennol.
Roedd prif neges y seminar yn glir: mae adfer natur yn fater brys ond yn rhywbeth y gellir ei gyflawni, heb os nac oni bai. Drwy barhau i feithrin gwybodaeth a chwilio am gyfleoedd yn ein gwaith o ddydd i ddydd, gallwn helpu i greu manteision parhaol i fywyd gwyllt, ein cymunedau a chenedlaethau’r dyfodol.
Diolch o galon i’n timau Eiddo, Datblygu, Ôl-osod a Gwaith Cynnal a Chadw Arfaethedig, ac i sawl aelod brwdfrydig arall o’r tîm a ymunodd â’r sesiwn ac a gyfrannodd i’r drafodaeth. Helpodd y brwdfrydedd, y ddealltwriaeth a’r syniadau a rannwyd drwy gydol y seminar i greu profiad dysgu gwerthfawr a diddorol i bawb dan sylw.



