Filter:
-
Sut mae sôn am broblem?
Os ydych yn dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol neu niwsans a achosir gan gymdogion, cysylltwch â ni i gael gwybod beth y gallwn ni ei wneud a pha gamau y gallwch chi eu cymryd i’w ddatrys. Llenwch ein
Report anti-social behaviour er mwyn cwyno a chyflwyno adroddiad heddiw.
-
Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn sôn am broblem?
Pan fyddwch yn sôn wrthym am broblem sy’n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol neu niwsans a achosir gan gymdogion byddwn yn cynnig cyngor i chi, yn cymryd gwybodaeth gennych ac yn dweud wrthych pa gamau y gallwn eu cymryd i helpu i ddatrys y broblem. I ddechrau, byddem yn argymell eich bod yn mynd ati eich hun i geisio datrys y broblem gyda’ch cymdogion, os yw’n ddiogel i chi wneud hynny. Byddwn yn mynd i’r afael â digwyddiadau mwy difrifol sy’n ymwneud ag ymddygiad a gaiff ei wahardd, megis ymddygiad gwrthgymdeithasol a niwsans a achosir gan gymdogion, pan fydd gennym dystiolaeth a bod angen gweithredu. Gallai tystiolaeth gynnwys recordiadau’r ap sŵn, cofnodion ysgrifenedig, ffotograffau neu fideos. Ni fyddwn yn mynd i’r afael â mân ddigwyddiadau neu bethau sydd wedi digwydd unwaith yn unig, y mae’n hawdd eu datrys rhwng cymdogion. Nodwch y gallai gymryd peth amser i gasglu tystiolaeth a gweithredu, ond byddwn bob amser yn cyfathrebu’n rheolaidd â chi drwy gydol y broses. Ni fyddwn yn gallu datrys rhai problemau ar ein pen ein hunain. Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â’r heddlu, yr awdurdod lleol ac asiantaethau eraill i ymdrin ag achosion mwy difrifol o niwsans ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, er mwyn gwneud ein cymunedau’n fannau diogel i fyw ynddynt.
-
Sut mae’r ap niwsans sŵn yn gweithio?
Mae’r Ap Sŵn yn ffordd gyflym a hawdd o recordio sŵn sy’n achosi anfodlonrwydd a niwsans. Bydd angen ffôn ‘clyfar’ arnoch i ddefnyddio’r ap hwn, ac os oes gennych fand eang ni fyddwch yn defnyddio lwfans data eich ffôn symudol. Cyn i chi recordio unrhyw beth ar yr ap, rhaid i chi ffonio Canolfan Gyswllt Cyngor Sir Penfro ar 01437 764551 lle bydd rhywun yn nodi eich manylion ac yn cyfeirio eich achos at y Tîm Iechyd Cyhoeddus. Nodwch na fydd modd paru eich recordiadau â’ch manylion os na fyddwch yn gwneud hynny. Ar ôl i chi lawrlwytho’r ap a rhoi gwybod i’r Cyngor, gallwch fynd ati ar unwaith i ddechrau recordio’r sŵn sy’n achosi’r broblem. Caiff y recordiadau eu lanlwytho’n syth i wefan ddiogel. Yna, byddant yn cael eu hasesu a bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch pa gamau gweithredu sy’n angenrheidiol. Gallwch wneud cynifer o recordiadau ag sydd angen – mae pob recordiad yn para hyd at 30 eiliad.