Cadw ein cymunedau’n lân ac yn daclus

Mae pob un ohonom yn awyddus i fyw mewn mannau sy’n teimlo yn lân, yn ddiogel ac yn ddymunol. Caiff mannau a rennir, gerddi ac ardaloedd cyffredin eu darparu i bawb eu mwynhau, ond mae sicrhau eu bod yn parhau felly’n golygu bod angen i bob un ohonom ofalu amdanynt. 

Mae pob cartref yn gyfrifol am ei wastraff a’i sbwriel nes y byddant yn cael eu casglu. Mae ymfalchïo yn y modd yr ydym yn rheoli ein gwastraff yn helpu i greu cymdogaethau y gall pawb deimlo’n falch o fod yn byw ynddynt. 

Gall sbwriel rhydd neu sbwriel sydd wedi’i adael yn y man anghywir olygu’n sydyn bod mannau a rennir yn anniben ac yn annymunol i gymdogion. Gall hefyd ddenu plâu a pheri i sbwriel wasgaru ar hyd y lle. Drwy weithio gyda’n gilydd a chymryd cyfrifoldeb am ein gwastraff, gallwn helpu i gadw ein cymunedau’n fannau glân a chroesawgar. 

Cael gafael yn y wybodaeth gywir

Mae gwefan Cyngor Sir Penfro yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol i’ch helpu i reoli eich gwastraff a’ch deunyddiau ailgylchu. 

Ar y wefan, gallwch ddod o hyd i’ch Calendr Casglu Gwastraff ac Ailgylchu, arweiniad ynghylch beth y gellir ei ailgylchu, a gwybodaeth am wasanaethau megis casglu gwastraff swmpus a rhoi gwybod am achosion o dipio gwastraff yn anghyfreithlon. 

Gallwch hefyd gofrestru i gael negeseuon i’ch atgoffa am ddiwrnodau casglu, a gellir anfon y negeseuon atoch drwy ebost neu neges destun. Mae’r negeseuon atgoffa hyn yn ei gwneud yn haws i chi gofio pryd y dylech roi eich biniau allan, ac yn eich helpu i beidio â cholli diwrnodau casglu. 

Gallwch gael gafael ar ragor o wybodaeth yma: 
https://www.pembrokeshire.gov.uk/recycling-and-waste 

At hynny, gallwch gael bocsys a bagiau ailgylchu ychwanegol o’r lleoliadau a restrir yma:

https://www.sir-benfro.gov.uk/casglu-gwastraff/bagiau-a-bocsys-ychwanegol

Pam y mae’n bwysig rheoli gwastraff yn iawn

Mae gofalu am ein gwastraff yn iawn yn helpu i warchod ein cymdogaethau a’r amgylchedd. Mae sbwriel a gaiff ei glymu’n sownd a’i osod allan yn gywir yn helpu i’w atal rhag chwythu o gwmpas y stryd ac yn lleihau’r risg o ddenu plâu megis llygod mawr, llwynogod a gwylanod. 

Yn anad dim, mae’n helpu i gadw mannau a rennir yn lân, yn ddiogel ac yn ddymunol i bawb sy’n byw yno. 

Camau syml i reoli eich gwastraff

Mae yna ychydig o bethau syml y gallwch eu gwneud i helpu i gadw eich ardal yn daclus. Sicrhewch fod bagiau sbwriel yn cael eu clymu’n sownd a bod caeadau biniau ar gau’n dynn fel na all gwastraff ddianc ohonynt. Ceisiwch osgoi gorlenwi biniau neu adael eitemau rhydd wrth eu hymyl, oherwydd mae’n hawdd i’r rhain ddechrau chwythu o gwmpas mewn tywydd gwyntog. 

Os oes modd, storiwch eich bagiau ailgylchu a’ch sbwriel mewn cynwysyddion na fyddant yn dymchwel, a pheidiwch â gosod eich gwastraff allan ar unrhyw ddiwrnod heblaw eich diwrnod casglu, oni bai bod arweiniad lleol yn nodi fel arall. 

Os oes gennych eitemau sy’n rhy fawr i’ch biniau, mae Cyngor Sir Penfro yn cynnig gwasanaeth casglu gwastraff swmpus, a dyma’r ffordd fwyaf diogel o gael gwared ar eitemau mwy o faint sydd yn eich cartref. 

Mae rhagor o wybodaeth am gasglu gwastraff swmpus i’w chael yma: 

https://www.pembrokeshire.gov.uk/bulky-household-waste 

Tipio gwastraff yn anghyfreithlon

Gall tipio gwastraff yn anghyfreithlon olygu bod ardaloedd yn dechrau edrych yn anniben yn sydyn, ac mae hefyd yn niweidio’r amgylchedd lleol. 

Ni ddylai eitemau mawr megis dodrefn, peiriannau neu fagiau o sbwriel fyth gael eu gadael mewn mannau a rennir, wrth ymyl biniau neu mewn ardaloedd cyhoeddus. Os caiff gwastraff ei adael fel hyn, gall greu problemau i’r gymuned gyfan. 

Os byddwch yn gweld rhywun yn tipio gwastraff yn anghyfreithlon yn eich ardal chi, gallwch roi gwybod i Gyngor Sir Penfro am hynny yma: https://www.pembrokeshire.gov.uk/fly-tipping 

Mae rhoi gwybod am achosion o’r fath yn helpu i sicrhau bod modd ymchwilio iddynt a chlirio’r gwastraff cyn gynted ag sy’n bosibl. 

Os oes gwastraff wedi chwythu o gwmpas y stryd

Mae deiliaid cartrefi’n gyfrifol am eu gwastraff nes y bydd wedi’i gasglu. 

Os oes sbwriel wedi chwythu allan o fagiau neu finiau, dylech gasglu unrhyw eitemau sydd ar wasgar cyn gynted ag sy’n bosibl. Mae hynny’n cynnwys gwirio’r palmentydd, yr ymylon ac ardaloedd cyfagos y gallai gwastraff fod wedi cael ei chwythu iddynt. 

Pan fyddwch wedi casglu’r sbwriel, dylech ei roi unwaith eto mewn bagiau a glymir neu mewn cynwysyddion addas a dylech gymryd camau i atal yr un peth rhag digwydd eto, er enghraifft drwy ddefnyddio biniau â chaeadau neu drwy aros tan fore’r diwrnod casglu cyn rhoi eich gwastraff allan. 

Mae gweithredu’n sydyn yn helpu i atal sbwriel rhag gwasgaru ymhellach ac yn cadw’r gymdogaeth yn daclus i bawb. 

Gweithio gyda’n gilydd

Gall camau bach gan bob cartref wneud gwahaniaeth mawr. Drwy gymryd cyfrifoldeb am ein sbwriel, ailgylchu’n iawn a chadw ardaloedd a rennir yn glir, gallwn helpu i greu cymdogaethau y mae pawb yn teimlo’n falch o’u galw yn gartref iddynt. 

Diolch am helpu i gadw eich cymuned yn lân ac yn daclus.

Cyhoeddwyd: 17/03/26