Disgyblion lleol yn ymweld â The Croft yn Llangwm

Roeddem yn falch iawn o groesawu disgyblion o Ysgol Bro Cleddau gerllaw a fu’n ymweld â’n datblygiad yn Llangwm yn ddiweddar, sef The Croft.

Ymunodd y grŵp â ni ar y safle i fynd am dro o gwmpas y datblygiad gyda’n tîm a’n contractwr Morganstone, sy’n adeiladu’r cartrefi newydd. Yn ystod yr ymweliad, bu modd i’r disgyblion weld â’u llygaid eu hunain sut y mae’r cartrefi yn cael eu codi, a dysgu am wahanol gamau’r gwaith adeiladu.

Roedd yn braf gweld eu brwdfrydedd wrth iddynt ofyn cwestiynau am sut y mae’r cartrefi yn cael eu hadeiladu a beth yw’r gwahanol dasgau sy’n rhan o greu datblygiad fel The Croft. O adeiladwyr a pheirianwyr i reolwyr prosiect a chynllunwyr, bu modd i ni ddangos iddynt yr ystod eang o yrfaoedd sy’n helpu i greu cartrefi newydd.

Fel yr esboniodd ein Harweinydd Cartrefi Newydd, Daniel Jones, yn ystod yr ymweliad, roedd yn “gyfle gwych i rannu gwybodaeth am beth sy’n digwydd ar y safle a dangos sut y mae cartrefi newydd yn cael eu creu”. Mae’n bwysig i ni bod datblygiadau fel hyn yn creu cysylltiadau â’r cymunedau sydd o’u hamgylch, ac mae ymweliadau tebyg i hwn yn helpu pobl ifanc i weld y gwahanol gyfleoedd sy’n bodoli ym maes adeiladu a thai.

Soniodd ein contractwr Morganstone hefyd am werth yr ymweliad. Dywedodd Andrew Collins, Rheolwr Gweithrediadau, fod y disgyblion yn “llawn cyffro a brwdfrydedd” a’u bod wedi gofyn “cwestiynau gwirioneddol ddiddorol am sut y mae’r cartrefi yn cael eu hadeiladu”. Ychwanegodd fod creu cysylltiadau cryf ag ysgolion lleol yn rhan bwysig o waith y contractwr yn y gymuned.

Mae The Croft yn un o’r ffyrdd yr ydym yn creu cartrefi newydd o safon i bobl leol, ac mae ymweliadau fel hyn yn ffordd wych o rannu’r cynnydd sy’n cael ei wneud. Dyma’r ail dro i ddisgyblion o’r ysgol ymweld â’r safle, ac rydym yn edrych ymlaen at eu croesawu unwaith eto yn ystod y misoedd nesaf er mwyn iddynt weld sut y mae’r datblygiad yn parhau i symud yn ei flaen.

Cyhoeddwyd: 13/03/26