Fforwm Cwsmeriaid

Dweud eich dweud

Mae ateb yn cynnal Fforwm Cwsmeriaid yn eich ardal. Nod y sesiwn yw trafod materion sydd o’r pwys mwyaf i gwsmeriaid ac sy’n effeithio ar lawer ohonynt, er enghraifft pethau sy’n digwydd yn eich stryd, eich bloc o fflatiau neu ar draws ateb yn ogystal â rhoi newyddion ateb i chi.  (Nid yw’n sefyllfa lle gallwn ymdrin â phroblemau unigol.)  Mewn awyrgylch hamddenol bydd staff allweddol ateb, gan gynnwys eich Cydlynydd Tai, ar gael i drafod materion â chi a helpu i ddod o hyd i atebion.

 

Mae’r sesiwn yn agored i holl gwsmeriaid ateb, yn enwedig y rhai sy’n byw o fewn 10 milltir i Gilgeti.

 

Manylion y digwyddiad:

Canolfan Cymunedol Begeli, Cilgeti SA68 0YA

Dydd Mawrth, 30 Mehefin

6yh-8yh

 

Diben: Fel y gallwn wella ein gwasanaethau i chi.

 

Lluniaeth: Bisgedi, cacennau, ffrwythau a diodydd poeth ac oer.

 

Popeth am ddim.

Mae’r lleoliad hwn yn hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn.

Mae ateb yn cynnig dewisiadau o ran bwyd, felly mae croeso i chi gysylltu â ni.

Mae ateb yn cynnig help i ofalwyr er mwyn i chi allu manteisio ar y cyfleoedd hyn.

Mae ateb yn cynnig help gyda theithio fel y gallwch fynychu.

 

Mae croeso i chi alw heibio i’r sesiwn i leisio eich barn.

 

Cysylltwch â Cydlynydd Ymgysylltu i gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn: 01437 774766 / 07500 446611 [email protected]

Os yw’n bwysig i chi, yna mae’n bwysig i ni

 

Cyhoeddwyd 16/06/26