Rydym wedi lansio tudalen newydd sbon ar y we, sy’n bwrpasol ar gyfer mannau a rennir, a fydd yn ei gwneud yn haws nag erioed i gwsmeriaid ddeall sut y mae’r amgylcheddau a rennir yn cael eu cynnal a’u cadw, eu gwasanaethu a’u defnyddio.
Mae mannau a rennir yn chwarae rhan bwysig mewn bywyd o ddydd i ddydd ar ein safleoedd. O ystafelloedd cyfarfod a pharthau cydweithio i goridorau, ceginau a chyfleusterau cyffredin, mae’r ardaloedd hyn yn helpu i greu profiad cadarnhaol i bawb sy’n eu defnyddio. Mae’r dudalen newydd ar y we’n crynhoi’r holl wybodaeth berthnasol mewn un lle, sy’n galluogi cwsmeriaid i gael mynediad cyflym, clir a chyfleus i’r wybodaeth pryd bynnag y mae arnynt ei hangen.
Beth sy’n newydd
Dyluniad glanach y mae’n haws ei ddeall a’i ddefnyddio
Mae’r diwyg newydd yn galluogi cwsmeriaid i archwilio’n hawdd y gwahanol fathau o fannau a rennir, a dysgu am y gwasanaethau sy’n eu cynnal.
Mynediad syml i safonau glanhau a safonau gwasanaeth
Yn awr gall cwsmeriaid weld manylebau glanhau, manylion am amlder glanhau, a disgwyliadau ynghylch gwasanaeth ar gyfer mannau unigol, sy’n helpu i bennu safonau clir a lleihau dryswch.
Arweiniad ynghylch y ffordd orau o ddefnyddio ardaloedd a rennir
Mae cynghorion defnyddiol wedi’u hychwanegu er mwyn annog cyfrifoldeb a rennir, hybu llesiant, a sicrhau bod ein hamgylcheddau’n barchus ac yn addas i’w diben.
Mwy o dryloywder
Drwy amlinellu’n glir beth y gall cwsmeriaid ei ddisgwyl gan ein gwasanaeth Rheoli Cyfleusterau, mae’r dudalen newydd ar y we’n cryfhau ymddiriedaeth ac yn hybu gwaith cyflawni cyson ar draws pob safle.
Gallwch weld ein tudalen newydd am fannau a rennir yma

