Diben yr arweiniad hwn yw eich helpu i fwynhau bod yn berchennog cyfrifol ar anifail anwes. Nid ydym am orfodi rheolau. Rydym am i chi deimlo’n hyderus, teimlo eich bod yn cael cefnogaeth, a theimlo’n rhan o gymuned lle gall pawb fyw’n dda gyda’i gilydd.
Anifail anwes yw anifail dof a gaiff ei gadw’n bennaf er mwyn cael cwmni, mwynhad neu gefnogaeth emosiynol. Mae enghreifftiau cyffredin o anifeiliaid anwes yn cynnwys:
Nid yw anifeiliaid sy’n gweithio, da byw neu rywogaethau gwyllt/estron yn anifeiliaid anwes. Os nad ydych yn siŵr a yw eich anifail chi’n anifail anwes, gofynnwch i ni – byddwn yn hapus i roi eglurhad.
Cyn croesawu anifail anwes i’ch cartref, dylech ystyried y canlynol yn ofalus:
Os byddwch yn dewis cael anifail anwes i hybu eich lles neu’ch iechyd meddwl, rydym am eich helpu i deimlo’n hyderus a gwneud y dewis iawn.
Nid oes angen i’r rhan fwyaf o’n cwsmeriaid ofyn am ganiatâd i gael anifail anwes. Dylech gysylltu â ni’n gyntaf:
Byddwn yn eich tywys drwy’r camau i wneud yn siŵr bod eich anifail anwes a’ch cymuned yn gallu cyd-fyw’n hapus â’i gilydd.
Mae bod yn gymydog da’n helpu pawb i fwynhau eu cartrefi. Dylech:
Os bydd problemau’n codi, byddwn bob amser yn gweithio gyda chi er mwyn dod o hyd i ateb cyn cymryd camau gweithredu ffurfiol.
Pan fydd ein staff neu’n contractwyr yn ymweld â’ch cartref, gofynnwn yn garedig i chi roi anifeiliaid anwes mewn ystafell ar wahân yn ystod yr ymweliad. Nid yw hynny’n golygu nad ydym yn hoffi anifeiliaid, ond rydym am sicrhau bod pawb yn cadw’n ddiogel.
Gall hyd yn oed yr anifeiliaid anwes mwyaf cyfeillgar ymddwyn mewn modd annisgwyl mewn sefyllfaoedd newydd, ac yn anffodus rydym wedi cael achosion lle mae aelodau’r tîm wedi cael eu cnoi. Mae rhoi anifeiliaid anwes mewn ystafell ar wahân yn gwarchod ein tîm ac yn helpu i leihau straen ar eich anifail tra bydd unrhyw waith yn cael ei gyflawni.
Diolch am ein helpu i sicrhau bod ymweliadau’n ddiogel ac yn brofiad cadarnhaol i bawb.
Ydych chi’n ystyried cael anifail anwes? Ddim yn siŵr a yw eich cartref yn addas? Yn awyddus i sgwrsio am eich anghenion o ran cymorth?
Cysylltwch â’ch Cydlynydd Tai neu â’n Canolfan Gwasanaethau i Gwsmeriaid ar 01437 763688 – rydym yma i chi.
Am unrhyw ymholiadau neu faterion, anfonwch e-bost atom ar [email protected] →
Dewch i mewn i siarad â ni wyneb yn wyneb, yn SA61 1QP →
Ffoniwch a siaradwch ag un o’n tîm hyfryd ar
01437 763688 →