Ddydd Gwener 13 Mehefin, roedd ystâd Three Meadows yn Hwlffordd yn llawn bwrlwm a chwerthin, bownsio a hwyl, ac roedd arogl hyfryd pitsas wedi’u coginio mewn ffwrn goed yn llenwi’r lle.
Daeth y digwyddiad, a drefnwyd gan ateb, â thua 50 o gwsmeriaid a’u teuluoedd ynghyd i fwynhau prynhawn o fwyd, sbort a sbri, a chyfle i gwrdd â’u cymdogion cyfeillgar. Dyma oedd ein ffordd ni o ddweud diolch, nid yn unig am ymdrechion y preswylwyr i wella’r modd y caiff gwastraff ei reoli yn yr ardal ond hefyd am eu cyfraniad parhaus i sicrhau bod Three Meadows yn lle gwell i fyw ynddo.
Roedd yna ddigon o bethau at ddant pawb, a gwnaeth y plant yn fawr o’r cyfle i gael hwyl ar y castell bownsio a mwynhau’r pitsas blasus a gafodd eu paratoi’n ddiwyd yn y fan a’r lle gan Pembrokeshire Woodfired Pizza.
Cawsom gwmni rhai o aelodau tîm ateb hefyd. Daeth Andrew Jenkins, ein Cydlynydd Lles Cymunedol, draw gyda Dot.e – ein canolfan cymorth digidol – i gynnig cymorth digidol, arweiniad a chyngor am ddim i bwy bynnag oedd angen cymorth o’r fath.
I ychwanegu at yr ysbryd cymunedol, galwodd Swyddogion Cymorth Cymunedol lleol yr Heddlu heibio i ddangos eu cefnogaeth. Cafodd y plant gyfle i sgwrsio â nhw, gwisgo hetiau’r heddlu, a dysgu mwy am y gwaith y maent yn ei wneud yn yr ardal.
“Mae’n ymwneud â meithrin perthynas”
Esboniodd Amy Williams, yr Arweinydd Tîm Atebion o ran Tai, pam y mae’r digwyddiadau hyn yn bwysig:
“Er mwyn meithrin perthynas ag ateb a’n cwsmeriaid — dyna ddiben heddiw. Mae Clayton yn newydd i’r ardal, felly mae’n bwysig bod pobl yn ei adnabod ac yn ei gyfarch pan fyddant yn ei weld yn cerdded i lawr y stryd.
Mae yna heriau yn yr ardal, sy’n cynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol, felly dyma ffordd o roi rhywbeth yn ôl i’r bobl sy’n barod i chwarae eu rhan, bod yn gymdogion da a helpu i greu lle gwell i fyw ynddo.
Rydym yn gweld teuluoedd o wahanol gartrefi’n sgwrsio â’i gilydd a phlant yn chwarae gyda’i gilydd – dyna’r canlyniad yr ydym am ei weld. Dyma gydlyniant cymunedol ar waith.”
“Mae’n dangos ein bod yn malio”
Bu Amy yn myfyrio hefyd am effaith ehangach digwyddiadau cymunedol fel hyn:
“Mae’n ymwneud â’r tîm hefyd – mynd allan i’n cymunedau, deall y problemau a dod i adnabod ein cwsmeriaid yn iawn. Mae’r sgyrsiau yr ydym yn eu cael yma – â’n cwsmeriaid ac â’n gilydd – mor werthfawr.
Gofynnodd rhywun i fi heddi’, ‘Pa wahaniaeth y mae hyn yn ei wneud?’ Wel, i’r plant sydd yma, dyma sut y byddant yn cofio ateb. Nid y bobl sy’n mynd ar ôl taliadau rhent hwyr neu’r bobl sy’n trefnu gwaith atgyweirio, ond y bobl a ddaeth â’r castell bownsio a’r pitsas yma.
Mae hynny’n bwysig. Mae’n dangos ein bod yn malio. Mae’n dangos bod ein cwsmeriaid – rhai’r presennol a rhai’r dyfodol – wrth wraidd popeth a wnawn.”
Daeth Abby, un o’r preswylwyr lleol sy’n byw yn Three Meadows ers i’r ystâd gael ei hadeiladu, draw gyda’i phlant.
“Rydw i wir yn mwynhau bwy yma. Mae gen i dri o blant ac maent yn hapus. Mae fy nheulu’n byw drws nesa’, felly mae gennym gymorth gwych o’n cwmpas. Mae’r digwyddiad heddi’ wedi bod yn wych; mae’r plant wedi bod wrth eu bodd. Maent wedi bod allan yn chwarae gyda phlant eraill nad ydynt fel arfer yn eu gweld, ac roedd y pitsas yn fendigedig!”
Hoffem ddiolch o galon i bawb a ddaeth draw ac a wnaeth y diwrnod yn un mor llwyddiannus, o’r cwsmeriaid a ddaeth â’u hysbryd cymunedol i’r timau a helpodd i drefnu’r digwyddiad.
Rydym yn falch o fod yn rhan o’r gymuned hon, ac rydym yn edrych ymlaen at gynnal rhagor o ddigwyddiadau fel hyn yn y dyfodol ac at greu cydberthnasau cryfach fesul cymdogaeth.