Ymddiriedolaeth ateb: Rownd gyllido newydd yn dechrau ym mis Gorffennaf!

Mae’r cyfnod i wneud cais am gyllid gan Ymddiriedolaeth ateb ar fin cychwyn, a bydd yn agored drwy gydol mis Gorffennaf!

Diolch i’r rhodd cymorth hael a geir gan Mill Bay Homes, mae Ymddiriedolaeth ateb yn cynnig grantiau o hyd at £1,500 i brosiectau a arweinir gan y gymuned, sy’n:

  • Creu cymunedau hunangynhaliol a chydnerth
  • Adfywio cymdogaethau drwy fentrau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol neu fentrau lles
  • Cynorthwyo pobl hŷn ac agored i niwed i barhau i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.

Ceir tair rownd gyllido bob blwyddyn – ym mis Gorffennaf, mis Hydref a mis Ionawr. Caiff ceisiadau eu hadolygu yn ystod y mis sy’n dilyn, a chaiff cyllid ei ddyfarnu wedyn. Peidiwch â cholli eich cyfle ym mis Gorffennaf i wireddu eich syniad!

Straeon llwyddiant mis Mehefin: Saith prosiect wedi cael cyllid

Yn ystod rownd gyllido mis Mehefin, cafod saith sefydliad neu fudiad lleol gwych gymorth i helpu eu mentrau cymunedol gwerthfawr i ffynnu. Mae’r grwpiau dan sylw’n defnyddio eu grantiau i wneud newidiadau ystyrlon, o gynnal gweithdai lles i gyflawni gwaith adfywio amgylcheddol a gweithredu mentrau ar gyfer preswylwyr agored i niwed.

Sut mae gwneud cais

Pwy sy’n gymwys?

  • Cymdeithasau Tenantiaid a Phreswylwyr cyfansoddiadol ateb
  • Sefydliadau/mudiadau dielw sy’n sicrhau manteision i gymunedau ateb

Beth sydd ar gael?

  • Grantiau o hyd at £1,500 i bob prosiect, sydd â chynlluniau clir a dadansoddiad o’u costau

Dadlau dros eich achos:

  • Dangoswch sut y mae eich prosiect yn hybu effaith gynaliadwy, hirdymor yn ein cymunedau

Yn barod i ddechrau?

Peidiwch â cholli’r cyfle

P’un a ydych yn trefnu gardd gymunedol, yn cyflwyno gweithdai lles neu’n cynorthwyo pobl agored i niwed yn eich cymdogaeth, rydym am helpu eich prosiect i ffynnu. Mae Ymddiriedolaeth ateb yn ymwneud â chyllido syniadau sy’n cefnogi neu’n creu cymunedau cryfach a mwy bywiog.

Ewch i dudalen Ymddiriedolaeth ateb ar y we’n awr i wneud cais am gyllid mis Gorffennaf → Ymddiredolaeth ateb – gwnewch gais heddiw

Cyhoeddwyd: 24/06/2025