Gwaith ôl-osod ym Maes-y-Môr yn golygu hafau oerach a gaeafau cynhesach

Michelle sy’n rhannu ei phrofiad o brosiect ôl-osod a gyflawnwyd yn ddiweddar yn ei chartref yn Solfach.

Buom yn sgwrsio’n ddiweddar â Michelle, un o’n cwsmeriaid ym Maes-y-Môr, er mwyn clywed am y gwelliannau a wnaed i’w chartref yn rhan o’n gwaith ôl-osod diweddaraf.

Mae deunydd inswleiddio wedi’i osod ar waliau allanol cartref Michelle ac mae fentiau wedi’u gosod yn y to – sy’n helpu ei chartref i aros yn oerach yn yr haf ac yn gynhesach yn y gaeaf.

Straeon Go Iawn, Effaith Go Iawn

Beth oedd barn ein cwsmeriaid?

Mae Michelle yn byw gyda gorbryder, ac roedd yn gofidio ar y dechrau am y gwaith a fyddai’n cael ei gyflawni. “Dydw i ddim yn dda am ymwneud â phobl,” esboniodd, “ond roedd aelodau’r tîm yn wych. Roeddent yn dangos parch ac roeddent yn ystyriol iawn o fy iechyd meddwl. Buont yn gweithio o fy nghwmpas ar ddiwrnodau gwael, ac roeddwn yn cael y wybodaeth ddiweddaraf ganddynt yn gyson bob cam o’r ffordd.”

Dywedodd wrthym cymaint yr oedd yn gwerthfawrogi cymorth y rheolwr safle’n enwedig. “Gwnaeth George fwy na’r disgwyl i helpu. Byddai’n cnocio ar y drws i wneud yn siŵr fy mod yn iawn neu i ofyn a oedd angen unrhyw beth arna i. Doedd dim rhaid iddo wneud hynny ond roedd yn poeni amdanaf, ac roedd hynny’n golygu llawer.”

Er bod y deunydd inswleiddio’n dal yn newydd iawn, mae Michelle wedi sylwi ar wahaniaeth yn barod. “Mae’n bendant yn oerach. Roeddwn i’n arfer defnyddio pum ffan pan oedd y tywydd yn boeth, ond dim ond dwy rwy’n eu defnyddio’n awr! Rwy’n siŵr y byddaf yn gweld y manteision yn y gaeaf. Roedd yn arfer mynd yn oer iawn yma.”

Yn wreiddiol, doedd Michelle ddim yn siŵr a oedd hi am i’r gwaith gael ei wneud, ond yn y pen draw roedd yn falch ei bod wedi caniatáu iddo gael ei gyflawni. “Mae’n straen cael pobl o gwmpas a chael sgaffaldiau o amgylch y lle, ond meddyliais y byddai’n werth y drafferth pe bai’n arbed punt neu ddwy i fi ac yn gwella’r tŷ.”

Roedd hefyd yn gwerthfawrogi cael cyfle i ddweud sut y byddai’n hoffi i’w chartref edrych. “Cawsom liwiau paent i ddewis o’u plith ar gyfer y tu allan, ac fe ddewisais liw llwyd neis. Roedd yn braf cael fy nghynnwys yn y penderfyniadau hynny – roedd yn gwneud i fi deimlo fy mod yn rhan o’r broses.”

Mae’r gwaith wedi’i gwblhau erbyn hyn ac mae cartref Michelle yn edrych yn hyfryd, yn teimlo’n fwy cyffyrddus ac yn barod i wynebu’r misoedd oerach sydd i ddod.

Mae’r gwaith ym Maes-y-Môr yn rhan o raglen wedi’i hariannu gan grant, sy’n werth £1 filiwn ac sy’n cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru. Bwriad y rhaglen yw gwella effeithlonrwydd cartrefi o ran ynni ledled Cymru.

Mae’r prosiect ôl-osod diweddaraf hwn yn rhan o’n hadduned Sero Net i leihau allyriadau carbon a chreu cartrefi mwy effeithlon o ran ynni ar gyfer y dyfodol. Drwy fuddsoddi mewn gwelliannau cynaliadwy megis deunydd inswleiddio ar waliau allanol, rydym yn helpu ein cwsmeriaid i gadw’n gynnes ac arbed arian ar gostau ynni — ac ar yr un pryd yn hybu dyfodol mwy gwyrdd ar gyfer ein cymunedau.

Cyhoeddwyd 18/06/2025