Rhaid cyflwyno pob cais erbyn canol dydd, ddydd Gwener 23 Mehefin 2023. Bydd y gwaith beirniadu’n digwydd yr wythnos ganlynol. Byddwn yn ymweld â chi a’ch gardd yn bersonol.
Mae’r gystadleuaeth yn ei hôl, a bydd yn digwydd wyneb yn wyneb y tro hwn! Ein cystadleuaeth arddio 2023
Dyma gyfle gwych i chi arddangos eich sgiliau, waeth pa mor fach yw eich ‘gardd’. Cofiwch gymryd rhan yn y gystadleuaeth – bydd yna wobrau ariannol gwych, bydd y beirniadu’n digwydd wyneb yn wyneb, a bydd seremoni wobrwyo fendigedig yn cael ei chynnal a fydd yn cynnwys te prynhawn ac a fydd yn agored i’r cystadleuwyr i gyd a’u hanwyliaid.
Dosbarthiadau
- Yr Ardd Orau gan Berson Ifanc (dan 16 oed)
 - Yr Ardd Orau o Safbwynt yr Amgylchedd / Bywyd Gwyllt (a yw eich gardd yn helpu’r amgylchedd mewn rhyw fodd? E.e. ydych chi’n defnyddio casgenni dŵr / ydy’r ardd yn denu llawer o wenyn neu ieir bach yr haf / peillwyr / a oes gennych abwydfa?)
 - Y Blwch Ffenestr Gorau
 - Y Fasged Grog Orau
 - Y Blodyn Haul Talaf
 - Yr Ardd sydd wedi Gwella Fwyaf (er mwyn ymgeisio yn y dosbarth hwn, bydd angen i chi ddangos lluniau o’r ardd cyn i chi ddechrau gweithio arni, er mwyn i ni allu gweld sut y mae wedi gwella)
 - Yr Ardd Hygyrch Orau
 - Yr Ardd Unigol Orau
 - Y Cynnyrch Gorau y gellir ei Fwyta
 - Y Defnydd Mwyaf Arloesol o LE BACH
 - Yr Ardd a Rennir/yr Ardd Gyffredin Orau (y bu grŵp yn hytrach nag unigolyn yn gweithio arni)
 
Gwobrau
1af £50 ar gyfer pob dosbarth ar wahân i ddosbarth 11: 1af £100
Cynhelir y seremoni wobrwyo, gyda the a chacennau, yn Llys DeClare SA61 1XN ar 30/08/23; 2.30yh – 4.30yh
Sut mae ymgeisio
Anfonwch eich enw, eich cyfeiriad, eich rhif ffôn, eich cyfeiriad ebost ac enwau’r dosbarthiadau y byddwch yn ymgeisio ynddynt i: [email protected]
Rheolau
- Os ydych am ymgeisio yn Nosbarth 6, sicrhewch fod gennych luniau neu fideos byr o’r ardd fel yr oedd hi, y gallwn edrych arnynt yn ystod ein hymweliad, neu anfonwch nhw atom ymlaen llaw
 - Gallwch gofrestru’r un ardd ar gyfer unrhyw nifer o ddosbarthiadau addas
 - Nodwch i ba ddosbarth/dosbarthiadau y mae eich cais/ceisiadau yn perthyn
 - Rhaid cyflwyno pob cais erbyn canol dydd, ddydd Gwener 23 Mehefin 2023. Bydd y gwaith beirniadu’n digwydd yr wythnos ganlynol. Byddwn yn ymweld â chi a’ch gardd yn bersonol.
 - Rhaid eich bod yn byw yn Sir Benfro
 - Ni all staff ateb ymgeisio
 - Drwy ymgeisio yng Nghystadleuaeth Arddio ateb 2023, rydych yn cadarnhau eich bod yn rhoi caniatâd i ni ddefnyddio lluniau a dynnwyd o’ch gardd yn unig ar ein gwefan a’n sianelau ar gyfryngau cymdeithasol.
 
Cysylltwch ag Ali Evans am fwy o wybodaeth: 01437 774766 / 07500 446611 / [email protected]
Diweddarwyd: 15/06/2023
