Sioe Deithiol Universal Credit

Bydd Credyd Cynhwysol (Gwasanaeth Llawn) yn cael ei lansio yn Sir Benfro ym mis Medi 2018.

Mae hynny’n golygu na fydd modd cyflwyno hawliadau newydd am y canlynol:

  • Credyd Treth Plant
  • Budd-dal Tai
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
  • Credyd Treth Gwaith

Yn hytrach, bydd disgwyl i chi hawlio Credyd Cynhwysol.

Mae hwn yn newid mawr ac rydym wedi bod yn cydweithio â Chyngor Sir Penfro, yr Adran Gwaith a Phensiynau, a Chyngor ar Bopeth Sir Benfro i helpu tenantiaid i baratoi.

Byddwn yn ymweld â’r ardaloedd yr effeithir fwyaf arnynt ar ein bws digidol Dot.e er mwyn darparu cyngor a chymorth ynghylch Credyd Cynhwysol i unrhyw un sy’n galw draw i’n gweld.

Yn ogystal â’r pum ardal y byddwn yn ymweld â nhw gyda Chyngor Sir Penfro, yr Adran Gwaith a Phensiynau a Chyngor ar Bopeth, byddwn hefyd yn ymweld ag 18 o strydoedd Ateb ar hyd a lled Sir Benfro er mwyn ateb eich ymholiadau ynghylch Credyd Cynhwysol. Bydd Tom, ein Swyddog Cymorth Digidol, ar ein bws digidol Dot.e ynghyd ag un aelod arall o staff a fydd yn hapus i’ch helpu.

Ein harwyddair yw ‘osgoi straen trwy feddwl ’mlaen’ – ac rydym wir yn ei olygu! Dim ond i chi wneud ychydig o fân newidiadau’n awr i baratoi ar gyfer Credyd Cynhwysol, fydd pethau ddim cynddrwg ag yr ydych yn ei feddwl pan ddaw’r cynllun i rym ym mis Medi.

Ewch i weld ein tîm yn y lleoliad sydd agosaf atoch:

Dydd Iau 12 Gorffennaf 2018

10am – 11.30am yn Hwlffordd – Princess Royal Way

11.45am – 1.15pm yn Hwlffordd – Peregrine Close

2pm – 3pm yn Nhreletert – Parc Maen Hir

Dydd Iau 19 Gorffennaf 2018

10am – 11pm yn y Garn – Ocean Drive

11.30am – 12.30pm yn Nhyddewi  – Ffynnon Wen

2pm – 3pm yn Johnston – Acorn Drive

Dydd Iau 26 Gorffennaf 2018

10am – 11.30am yn Aberdaugleddau – Marble Hall Road

11.45am – 1.15pm yn Aberdaugleddau – Maes Parcio Tesco

2pm – 3pm yn Neyland – Gordon Parry Road

Dydd Iau 2 Awst 2018

10am – 11.30am ym Mhenfro – Ashdale Lane

12.00 (canol dydd) – 1.30pm ym Mhenfro – Vetch Close

2.15pm – 3.15pm yn Hook – Harcourt Close

Dydd Iau 9 Awst 2018

10am – 11.30am yn Noc Penfro – Maes Parcio ASDA

11.45am – 1.15pm yn Noc Penfro – Spring View

2pm – 3pm ym Mhont Fadlen – Freemans View

Dydd Iau 23 Awst 2018

10am – 11.30am yn Saundersfoot – Vineyard Vale

12.30pm – 1.30pm yn Arberth – John Morgan Close

2pm – 3pm yng Nghlunderwen – Bro Walden

 

Cymryd rhan yn ateb

Talu eich rhent

Sôn am waith atgyweirio

Gofyn am apwyntiad

Mae siarad â ni yn hawdd.

Am unrhyw ymholiadau neu faterion, anfonwch e-bost atom ar [email protected]

Dewch i mewn i siarad â ni wyneb yn wyneb, yn SA61 1QP →

Ffoniwch a siaradwch ag un o’n tîm hyfryd ar
01437 763688 →