Caiff cyfarfod nesaf y Fforwm Cwsmeriaid ei gynnal ddydd Iau, 4 Rhagfyr, 2025, am 3yh a bydd yn para tua dwy awr. Cynhelir y sesiwn hon wyneb yn wyneb yn Kensington Court SA73 1GB.
Yn y digwyddiad hwn bydd cyfle i chi gwrdd ag aelodau Pwyllgor Cwsmeriaid newydd ateb. Bydd lluniaeth ysgafn (am ddim) ar gael, gan gynnwys mins peis.
Mae’r Fforwm hwn yn grŵp ar gyfer holl gwsmeriaid ateb, lle gallwch gwrdd â chwsmeriaid eraill ateb a’i staff a rhannu gwybodaeth am bethau sy’n effeithio arnoch chi a’ch cymunedau, er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau i chi.
Er bod y grŵp yn cyfarfod bob mis, fwy neu lai, gallwch ddewis pa sesiynau yr hoffech fynd iddynt. Gall ateb yn eich helpu i gysylltu â ni trwy Teams, os hoffech chi. Cofiwch holi, hyd yn oed os nad oes gennych gyfarpar. Gall holl staff a chwsmeriaid ateb ymuno â’r grwpiau hyn.
Cysylltwch ag Ali Evans am ragor o wybodaeth am y digwyddiad hwn: 01437 774766 / 07500 446611 / [email protected]
Mae croeso i chi ddod i’r sesiwn hon er mwyn cael cyfle i ddweud eich dweud.
Os yw’n bwysig i chi, yna mae’n bwysig i ni
