Wrth i gam presennol prosiect 3 blynedd REACH Cymru ddod i ben, hoffem neilltuo eiliad i ddathlu’r creadigrwydd, yr hyder a’r cysylltiadau y mae’r prosiect wedi esgor arnynt ymhlith ein cwsmeriaid yn Kensington Court ac yn ein cymuned ehangach.
Beth yw REACH Cymru?
Prosiect cenedlaethol yw REACH Cymru (Trigolion yn Ymgysylltu â’r Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth (Residents Engaging with Arts, Culture and Heritage)) sy’n cael ei arwain gan y Brifysgol Agored yng Nghymru ac Amgueddfa Cymru ac sy’n gweithio ar draws pum cymuned yng Nghymru.
Mae’r prosiect wedi helpu pobl i archwilio a rhannu’r hanesion, y dreftadaeth a’r straeon sy’n bwysig iddynt, drwy gelfyddydau creadigol, trafodaethau a gweithgarwch cymunedol.
“Rydym wedi darganfod straeon gwych, trysorau lleol a doniau cudd drwy ein gweithdai datblygu. Gan ddefnyddio barn ac awgrymiadau’r preswylwyr, rydym wedi gallu creu gweithgareddau sy’n adlewyrchu pob cymuned yn wirioneddol.”Ruth Poultney, Swyddog Prosiect ar gyfer REACH Cymru yn y Brifysgol Agored
Roedd y fenter ysbrydoledig hon yn bosibl drwy gyllid gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, diolch i’r sawl sy’n cymryd rhan yn y Loteri.
Cyfraniad ateb yn Sir Benfro
Roedd ateb yn falch o fod yn rhan o linyn REACH Cymru yn Sir Benfro, a bu’n gweithio yn agos gyda chwsmeriaid yn Kensington Court yn Steynton ac yn DeClare Court yn Hwlffordd. Gyda’n gilydd, rydym wedi bod yn cynnal gweithdai creadigol a sesiynau adrodd straeon lle mae’r cwsmeriaid wedi bod yn archwilio eu hanesion personol a’r lleoedd sy’n golygu rhywbeth iddynt.
Un rhan allweddol o’r prosiect oedd ‘Amgueddfa mewn Bag’, sef casgliad o fagiau unigol yr oedd pob un ohonynt yn cynnwys eitemau sy’n adrodd stori bersonol. Mae pob un o’r cyfranogwyr wedi creu eu hamgueddfa fach eu hunain a fydd yn rhan o hanes ar y cyd a rennir â’r cyhoedd.
Mae ein Swyddog Prosiect, Anne Kerr-Hughes, wedi gweld y gwahaniaeth y mae’r prosiect wedi’i wneud:
“Rydym wedi sylwi ar gymaint o newidiadau er gwell – o hybu lles a hyder i weld pobl yn rhoi cynnig ar wneud pethau newydd a dysgu sgiliau newydd. Un canlyniad hyfryd oedd gweld mwy o breswylwyr yn defnyddio’r gwasanaeth bws lleol, ac yn teimlo’n ddigon hyderus i deithio’n annibynnol ar ôl ei ddefnyddio i fynd ar drip i’r Archifau yn Hwlffordd. Mae gweld hynny wedi bod yn galonogol.”
Y partneriaethau a wnaeth i’r cyfan ddigwydd
Rydym wedi bod yn ddigon ffodus i gydweithio â phartneriaid lleol gwych megis Oriel VC, Mencap a Cartrefi Cymru sydd wedi helpu i sicrhau bod y sesiynau’n gynhwysol, yn greadigol ac yn groesawgar i bawb dan sylw.
Mae’r partneriaethau hyn wedi dod â phobl o bob oed a chefndir ynghyd, y mae llawer ohonynt yn gwsmeriaid i ateb, i ddathlu treftadaeth leol a chysylltiadau cymunedol.
Meddai Rex: “Rwyf wedi mwynhau’r sesiynau a gynlluniwyd – ac wedi mwynhau gallu mynd allan a chymryd rhan yn y gweithgareddau, os oedd modd. Fe wnes i fwynhau’r agwedd gymdeithasol hefyd – cymysgu â phreswylwyr eraill a rhannu ein gwybodaeth am yr ardal leol a dysgu ffeithiau newydd.”
Meddai Joan, cwsmer arall, wedyn: “Mae wedi ailennyn fy hoffter yn yr ysgol o hanes … rwyf wrth fy modd, a dweud y lleiaf, â’r gwaith sy’n cael ei roi.”
Meddai Anne, ein Swyddog Prosiect: “Roedd yn braf iawn gweld Rex gyda’r arteffactau o Amgueddfa Cymru, oherwydd arweiniodd hynny at stori amdano’n gwneud chwe mis o brofiad gwaith yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd ac yn mynd i Gaerllion i gloddio. Tref yn y de yw Caerllion, sy’n safle archaeolegol pwysig tu hwnt ac sy’n adnabyddus yn bennaf fel lleoliad Isca Augusta a oedd yn gadarnle parhaol i leng.”
Rhannu ein straeon
Ond nid yw’r creadigrwydd wedi dod i ben eto. O ddydd Mawrth 10 Chwefror 2026 ymlaen, byddwn yn cynnal arddangosfa wythnos o hyd yn Theatr Torch yn Aberdaugleddau lle byddwn yn arddangos gwaith ein cwsmeriaid yn Kensington Court a gwaith ein partneriaid, yn y fan a’r lle ac yn ddigidol.
Yna, bydd creadigaethau ‘Amgueddfa mewn Bag’ ein cwsmeriaid yn dod yn rhan o brif arddangosfa REACH yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan, a fydd yn agor ddiwedd mis Hydref 2026 ac yn para tan fis Mai 2027 – a fydd yn rhoi llwyfan cenedlaethol i’n straeon cymunedol.
Edrych i’r dyfodol
Er bod y cam hwn ym mhrosiect REACH Cymru yn dod i ben, bydd ei effaith yn para ymhell y tu hwnt i’w ddyddiad gorffen. Bydd y cyfeillgarwch a gafodd ei greu, yr hyder a gafodd ei feithrin a’r straeon a gafodd eu rhannu’n parhau i gyfoethogi ein cymunedau am flynyddoedd i ddod.
Bydd y Brifysgol Agored hefyd yn datblygu arddangosfa ddigidol ac archif barhaol ar-lein, a fydd yn sicrhau bod cyfraniadau pawb yn cael eu gwarchod. Bydd adnoddau dysgu a ysbrydolwyd gan y prosiect yn ymddangos ar blatfform OpenLearn, a fydd yn helpu gweithwyr proffesiynol ym maes treftadaeth yn ogystal â chymunedau i archwilio ffyrdd newydd o gynnwys pobl ar draws Cymru.
Rydym yn falch dros ben o’r hyn y mae ein cwsmeriaid a’n partneriaid wedi’i gyflawni gyda’i gilydd, ac rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at weld eu gwaith yn cael llawer o sylw’r flwyddyn nesaf.
I gael rhagor o wybodaeth am brosiect REACH, ewch i https://walesreach.org/hafan/




