Diwrnod gwych arall o ddod â phobl ynghyd yn Noc Penfro

Ddydd Mercher 1 Ebrill, gwnaethom groesawu dros 140 o gwsmeriaid – a oedd yn cynnwys llawer o deuluoedd a phlant – i ddigwyddiad cymunedol gwych yn The Cricketers yn Imble Lane. Roedd llawer o bobl yn bresennol o West Merrion Drive, Boundary View, Cuckoo Wood a Spring View, felly roedd yn gyfle heb ei ail i gymdogion gysylltu â’i gilydd, cael hwyl a meithrin cydberthnasau lleol cryfach.

Roedd yn ddiwrnod llawn o weithgareddau i bobl o bob oed. Dan do, bu’r cwsmeriaid yn cymryd rhan mewn sesiynau cymorth cyntaf a sesiynau gwaith coed creadigol – gan ddefnyddio meinciau plaenio i greu ac addurno eu heitemau eu hunain i fynd â nhw adre gyda nhw. Yn yr awyr agored, roedd saethyddiaeth, gweithgareddau chwaraeon, sesiynau gan y Parc Cenedlaethol, injans tân i fusnesa o’u cwmpas, a helfa wyau Pasg enfawr a oedd yn boblogaidd iawn ymhlith y plant iau.

Mae digwyddiadau fel hyn yn fwy na diwrnod gwych allan yn unig. Maent yn helpu pobl i deimlo’n rhan o gymuned, yn hybu lles ac yn creu cyfleoedd i gwsmeriaid gysylltu â’r bobl a’r gwasanaethau sy’n gallu gwneud gwahaniaeth go iawn i’w bywydau.

Cyn y digwyddiad, bu’r cwsmeriaid yn sôn am y cymorth yr hoffent ei weld yn eu cymunedau. Roedd y cymorth hwnnw’n cynnwys pethau megis help i arddio, cymorth o ran iechyd meddwl, help i goginio bwyd iachach, cyngor am gyflogaeth, help i ailgylchu, a chymorth ariannol ymhlith pethau eraill. Gwnaethom ddefnyddio’r adborth hwnnw i ddod ag ystod eang o bartneriaid ynghyd a allai gynnig help – nid ar y diwrnod yn unig ond ar gyfer y tymor hwy hefyd.

Diolch yn fawr i bawb a fynychodd ac a helpodd i greu amgylchedd mor groesawgar a chefnogol i bawb.

Drwy gydweithio â’n gilydd a gwrando er mwyn cael gwybod beth sydd bwysicaf i’n cwsmeriaid, rydym yn helpu i greu cymunedau cryfach a mwy cysylltiedig ar draws y gorllewin.

Cyhoeddwyd: 21/04/2026