Mae’n bleser mawr gennym groesawu Adam Roberts i ateb, sef ein Cyfarwyddwr Gweithredol newydd ar gyfer Datblygu ac Asedau. Mae Adam yn ymuno â ni o Grŵp Codi lle bu’n gweithio fel Pennaeth Datblygu. Mae’n dod â pheth wmbredd o brofiad gydag e’, a fydd yn ein helpu i barhau i greu atebion gwell o ran byw ar draws y gorllewin.
Bydd y gyfarwyddiaeth newydd hon yn chwarae rôl allweddol yn y gwaith o lunio ein cartrefi a’n cymunedau. O adeiladu cartrefi newydd o safon ar draws Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion i barhau i fuddsoddi yn ein cartrefi presennol, mae’r ffocws yn glir, sef cael cartrefi sy’n fforddiadwy i’w rhedeg, y mae eu hansawdd yn dda, ac sy’n well i’r blaned.
Bydd rhan fawr o’r gwaith yn cynnwys datblygu ‘manyleb graidd ar gyfer eiddo ateb’ sy’n fanyleb glir ac sy’n defnyddio’r data a’r ddealltwriaeth gywir, ac atgyfnerthu’r modd y mae ein timau’n cydweithio â’i gilydd er mwyn sicrhau bod pob buddsoddiad yn cyflawni’r canlyniadau gorau i’n cwsmeriaid.

Meddai Adam, ein Cyfarwyddwr Gweithredol ar gyfer Datblygu ac Asedau:
“Rwy’n falch o fod yn ymuno ag ateb ar adeg mor gyffrous. Rwy’n awyddus i helpu i lunio ein strategaeth yn y dyfodol ar gyfer datblygu ac asedau, ac i atgyfnerthu ein cyflenwad o eiddo er mwyn i ni allu parhau i ddarparu cartrefi cynaliadwy o safon ac atebion gwell o ran byw ar gyfer y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu gyda balchder ar draws y gorllewin.”
Meddai Nick Hampshire, Prif Weithredwr ateb:
“Mae’n bleser gennym groesawu Adam i ateb. Bydd ei brofiad a’i arweinyddiaeth yn allweddol wrth i ni barhau i fuddsoddi yn ein cartrefi a’n cymunedau ar draws y gorllewin. Mae hwn yn gam cyffrous wrth i ni atgyfnerthu’r modd yr ydym yn darparu cartrefi o safon sy’n effeithlon o ran ynni ac sy’n diwallu anghenion ein cwsmeriaid yn awr ac yn y dyfodol.”

Ymunwch â ni i estyn croeso cynnes iawn gan ateb i Adam.
