Mae’n ddrwg gennym ond mae’r digwyddiad hwn bellach yn llawn.
Os hoffech gael y ffurflen gofrestru hwn mewn unrhyw fformat neu iaith arall, mae croesoi chi gysylltu ag ateb.
Theatr Torch, Aberdaugleddau SA73 2BU
12/05/26
Prif sesiwn: 2pm – 5pm
Bwffe: 5pm
Sesiwn galw heibio: 5pm – 7pm
Dyma wahoddiad i chi ymuno â’r sgwrs
Dewch i fod yn rhan o sesiwn ddiddorol a rhyngweithiol lle bydd eich barn yn wirioneddol bwysig.
Byddwn yn dechrau drwy archwilio siwrnai ein rhaglen ôl-osod—ac yn edrych yn ôl ar y gwelliannau sydd wedi’u gwneud eisoes i gartrefi, y manteision y mae ein cwsmeriaid wedi’u gweld, a’r hyn sydd i ddod. Bydd cyfle i chi ofyn cwestiynau a rhannu eich meddyliau.
Byddwch hefyd yn clywed am ein Pwyllgor Cwsmeriaid newydd—beth yw e’, beth y mae’n ei wneud, a sut y mae’n eich cynrychioli chi. Yna, bydd yr awenau’n cael eu trosglwyddo i chi: cewch gyfle i gymryd rhan mewn gweithdai i grwpiau bach er mwyn trafod beth sydd bwysicaf ac er mwyn helpu i lunio blaenoriaethau’r Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.
Byddwn yn cloi’r digwyddiad drwy rannu prif themâu a phrif syniadau’r trafodaethau, gan grynhoi mewnbwn pawb.
Gallwch fwynhau paned yn ystod y sesiwn, a bydd bwffe ar gael wedyn o tua 5pm ymlaen.
I’r sawl sy’n methu â mynychu sesiwn y prynhawn, byddwn yn cynnal sesiwn galw heibio hamddenol, anffurfiol ar ôl 5pm, sy’n ddelfrydol os yw’n well gennych ymuno’n nes ymlaen neu os hoffech gael sgwrs mewn awyrgylch llai ffurfiol.
Byddem yn ddiolchgar pe baech yn llenwi’r holiadur byr hwn am eich digwyddiad gydag ateb heddiw. Bydd eich atebion yn cael eu defnyddio i wella digwyddiadau a gwasanaethau ateb 😊
Dyma’r AGENDA
Dylech lenwi’r FFURFLEN GOFRESTRU hon yn llawn os hoffech fynychu.
- Mae’r lleoliad hwn yn hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn
- Mae ateb yn cynnig dewisiadau o ran bwyd, felly mae croeso i chi gysylltu â ni
- Mae ateb yn cynnig help i ofalwyr er mwyn i chi allu manteisio ar y cyfleoedd hyn
- Mae ateb yn cynnig help gyda theithio
Byddem wrth ein bodd yn eich gweld chi yno!
Cysylltwch: [email protected] / Cydlynydd Ymgysylltu: 01437 774766 / 07500 446611
MAE EICH BARN YN BWYSIG – DIOLCH AM SIARAD AG ATEB
