Yr wythnos hon, gwnaethom gynnal Diwrnod Cwrdd â’r Contractwr yn rhan o’n tendr newydd ar gyfer Gwaith Ôl-osod ateb, ac roedd yn braf gweld cymaint o sefydliadau yn yr ystafell.
Daeth y digwyddiad, a gynhaliwyd yn Neuadd y Frenhines yn Arberth, â chontractwyr ynghyd a oedd â diddordeb mewn cyflawni gwaith ôl-osod a gwaith wedi’i gynllunio ar draws cartrefi ateb. Roedd yn gyfle i ddarpar bartneriaid gwrdd â thîm ateb ac aelodau o Jewson Partnership Solutions (JPS). Bu modd iddynt ddysgu mwy am ein huchelgeisiau a gofyn cwestiynau am y contract a’r hyn yr ydym yn chwilio amdano.
Beth yw Diwrnod Cwrdd â’r Contractwr?
Cyn dyddiad cau’r tendr, rydym yn agor y drws ac yn cael sgwrs onest. Rydym yn esbonio hyd a lled y gwaith, y safonau yr ydym yn eu disgwyl, sut yr ydym yn gweithredu, a sut brofiad yw gweithio mewn partneriaeth yn ateb. Gall y contractwyr ofyn cwestiynau, deall ein gwerthoedd, a phenderfynu a ydym yn addas iddynt, sydd yr un mor bwysig â’r cyfle i ni ystyried a ydyn nhw’n addas i ni.
Pam y mae’n bwysig
Mae cynnal digwyddiadau fel hyn yn bwysig i ni oherwydd ein bod am gael y gwasanaeth gorau posibl i ateb ac i’n cwsmeriaid.
Mae gwaith ôl-osod yn effeithio ar gartrefi pobl – y mannau lle maent yn byw, yn magu eu teuluoedd ac yn creu eu bywydau. Mae angen i ni wneud yn siŵr ei fod yn iawn. Drwy gwrdd wyneb yn wyneb, pennu disgwyliadau clir ac annog sgwrs agored, rydym yn cryfhau ein siawns o benodi partneriaid sydd wedi ymrwymo fel ninnau i ansawdd, cydweithio a meddylfryd hirdymor.
Mae’r tendr hwn yn cynnwys saith lot sy’n ymdrin â’r canlynol:
- Gwaith trydanol wedi’i gynllunio
- Gwaith mecanyddol wedi’i gynllunio
- Gwaith ôl-osod trydanol
- Gwaith ôl-osod mecanyddol
- Adeiladwaith
- Tŷ cyfan
- Gwasanaeth ymgynghori am waith mecanyddol a thrydanol
Caiff pob lot ei chaffael am gyfnod contractio o 2 flynedd + 1 flwyddyn + 1 flwyddyn, a fydd yn hybu gweithio mewn partneriaeth am gyfnod hirach ac yn rhoi sicrwydd.
Sut mae gwneud cais
Mae manylion llawn y saith lot sy’n rhan o’r cyfle hwn gydag ateb ar gael ar GwerthwchiGymru tan ddiwedd yr wythnos hon, ac yno y bydd manylion pob cyfle arall yn y dyfodol yn cael eu cyhoeddi hefyd.
Rhaid i holl ddogfennau’r tendr ac unrhyw geisiadau am eglurhad gael eu hanfon drwy’r porth.
Edrychwn ymlaen at weithio gyda sefydliadau sydd am ddarparu cartrefi o safon, lleihau carbon, a gwneud gwahaniaeth parhaol ledled gorllewin Cymru.



