Oes angen help arnoch i gofrestru i bleidleisio? Mae Andrew yma i’ch cynorthwyo.

Mae Grŵp ateb yn credu y dylai pawb gael cyfle i leisio eu barn – ac mae hynny’n cychwyn drwy’r gallu i gofrestru i bleidleisio. Ond rydym yn gwybod nad yw’n hawdd i bawb fynd ar-lein.

Dyna pam y mae Andrew, ein Cydlynydd Lles Cymunedol, yn cynnig cymorth AM DDIM i helpu pobl i gofrestru ar-lein i bleidleisio, gyda help ymarferol bob cam o’r ffordd.

Pam y mae’n bwysig

I bleidleisio mewn etholiadau lleol neu genedlaethol yn y DU, rhaid eich bod ar y gofrestr etholiadol. Dim ond unwaith y mae angen i chi gofrestru, oni bai eich bod yn newid eich enw neu’ch cyfeiriad. Mae’n cymryd tua phum munud i gwblhau’r broses ar-lein fel rheol, a’r unig bethau y mae arnoch eu hangen yw ychydig o fanylion allweddol megis eich rhif Yswiriant Gwladol a’ch dyddiad geni.

Mae bod ar y gofrestr nid yn unig yn rhoi cyfle i chi fwrw pleidlais mewn etholiadau ond hefyd yn gallu gwella eich sgôr credyd a’i gwneud yn haws i chi gael mynediad i wasanaethau eraill.

Pwy all gofrestru

Yng Nghymru, gall unrhyw un 14 oed neu hŷn gofrestru ond rhaid eich bod yn 16 oed neu’n hŷn i bleidleisio yn y rhan fwyaf o etholiadau. Gallwch gofrestru os ydych yn un o ddinasyddion Prydain, Iwerddon neu’r UE neu’n un o ddinasyddion cymwys y Gymanwlad sy’n byw yma.

Sut y gall Andrew helpu

Os yw mynd ar-lein yn teimlo’n anodd neu os nad oes gennych yr offer iawn, gall Andrew eich helpu drwy roi’r canlynol i chi:

  • Dyfeisiau ar fenthyg, megis llechi, gliniaduron neu ffonau clyfar
  • Cardiau SIM data rhad ac am ddim os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd
  • Cymorth un i un gartref, gan eich tywys drwy’r ffurflen gofrestru ar-lein
  • Cymorth ehangach i ddysgu sgiliau digidol fel eich bod yn teimlo’n ddigon hyderus ar-lein i wneud pethau heblaw pleidleisio

Ni ddylai neb fethu â chofrestru oherwydd bod tasgau ar-lein yn teimlo’n anodd – ac mae Andrew yma i hwyluso’r broses. Os hoffech gael cymorth, anfonwch neges neu cysylltwch â ni’n uniongyrchol.

Sut mae cofrestru ar-lein

Gallwch ddechrau’r broses eich hun gan ddefnyddio’r gwasanaeth swyddogol, sef gwasanaeth cofrestru i bleidleisio GOV.UK, sy’n eich tywys drwy’r broses o ychwanegu eich manylion at y gofrestr etholiadol.

Os oes angen cymorth arnoch, gallwch gysylltu ag Andrew – 07508 498855

Neu gallwch gysylltu ag ateb – 0800 854568

Cyhoeddwyd: 23/02/2026