Gwahoddiad i chi ddod i arddangosfa REACH Cymru yn Theatr Torch

Mae’n bleser gennym eich gwahodd i Arddangosfa REACH Cymru a gynhelir yn Theatr Torch yn Aberdaugleddau o ddydd Mawrth 10 Chwefror tan ddydd Sadwrn 14 Chwefror.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae ein cwsmeriaid wedi bod yn cymryd rhan ym mhrosiect REACH Cymru, gan archwilio hanes lleol, creadigrwydd a chysylltiadau ar draws Sir Benfro. Gyda’i gilydd, maent wedi creu casgliad bendigedig o waith celf a darnau o waith creadigol sy’n adlewyrchu eu siwrneiau personol, eu profiadau cyffredin ac ymdeimlad o le — ac rydym yn wirioneddol falch o allu rhannu’r gwaith â’r gymuned ehangach.

Mae’r arddangosfa am ddim ac yn agored i bawb, ac mae croeso i chi alw heibio unrhyw bryd yn ystod ei horiau agor:

  • Dydd Mawrth 10 Chwefror: 12pm – 8pm
  • Dydd Mercher 11 Chwefror: 11am – 8pm
  • Dydd Iau 12 Chwefror: 11am – 6.30pm
  • Dydd Gwener 13 Chwefror: 12pm – 8pm
  • Dydd Sadwrn 14 Chwefror: 1pm – 8pm

Mae’n gyfle gwych i archwilio’r gwaith celf, clywed y straeon sy’n sail iddo, a gweld sut y gall creadigrwydd a threftadaeth ddod â phobl ynghyd.

Mae’r arddangosfa wedi’i llunio mewn partneriaeth â phrosiect REACH Cymru, y Brifysgol Agored yng Nghymru, Amgueddfa Cymru, Casgliad y Werin Cymru ac ateb.

Byddem wrth ein bodd pe baech yn ymuno â ni yn Theatr Torch yr wythnos nesaf i ddathlu creadigrwydd, cymuned a’r straeon sy’n dylanwadu ar fywyd yng Nghymru.

I gael rhagor o wybodaeth am brosiect REACH, darllenwch y stori newyddion hon.

Cyhoeddwyd: 05/02/2026