Rydym yn falch o ddathlu llwyddiant Nisha sy’n aelod o’n Bwrdd, a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn y categori Cynrychiolaeth yn y Gwobrau Meistroli Amrywiaeth eleni yn y Senedd.
Mae’r Gwobrau Meistroli Amrywiaeth yn anrhydeddu unigolion a sefydliadau ledled Cymru sy’n sbarduno newid er gwell ym maes cydraddoldeb, cynhwysiant a chynrychiolaeth. Mae’r gwobrau yn rhoi sylw i bobl sy’n hyrwyddo ymdeimlad o berthyn, sy’n herio rhwystrau ac sy’n cryfhau lleisiau cymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae’r rhestr fer yn golygu bod y bobl sydd arni ymhlith y sawl sy’n arwain newid yng Nghymru, ac mae’n cydnabod eu hymrwymiad a’u heffaith.
Roedd Nisha ar y llwyfan gyda grŵp ysbrydoledig o bobl eraill a oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol, y mae eu gwaith yn newid sgyrsiau am amrywiaeth a chynhwysiant ar draws sectorau. Mae’r gydnabyddiaeth a gafodd Nisha yn amlygu ei hangerdd wrth iddi gefnogi diben ateb a’n hymrwymiad i greu sefydliad sy’n fwy cynhwysol a chynrychiadol. Mae ei dealltwriaeth, ei phrofiad go iawn a’i harweinyddiaeth yn chwarae rhan bwysig yn ein penderfyniadau, ac yn ein helpu i greu atebion gwell o ran byw ar gyfer ein cymunedau.

Wrth fyfyrio ynglŷn â’r noson, gwnaeth Nisha ambell sylw pwerus am ysbryd y digwyddiad: “Er i fi ddathlu’r noson fel rhywun a oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol, roedd rhannu’r llwyfan â phobl eraill yr oedd eu hangerdd a’u pwrpas yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r seremoni ei hun yn brofiad gwirioneddol ysbrydoledig. Mae amrywiaeth yn fwy na’r naw nodwedd warchodedig sy’n perthyn i Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae a wnelo â dyngarwch cyffredin yn ei ffurf grai a bod yn bartneriaid i’n gilydd, gan gyfuno caredigrwydd a thosturi i greu ymdeimlad o berthyn, a sicrhau hefyd bod yr adnoddau’n cael eu darparu i bawb ffynnu gyda’i gilydd.”
Llongyfarchiadau i chi, Nisha oddi wrth bawb yn ateb. Mae cael cydnabyddiaeth genedlaethol am eich cyfraniad i gynrychiolaeth a chynhwysiant yn gamp yr ydym yn ymfalchïo’n fawr ynddi. Mae eich ymroddiad yn cryfhau ein sefydliad ac yn cefnogi ein gwaith parhaus i greu amgylchedd croesawgar, amrywiol a grymusol ar gyfer cwsmeriaid a chydweithwyr fel ei gilydd.
