Troi geiriau’n weithredoedd â Gweithredu, Nid Geiriau 2.0

Rydym yn falch o gadarnhau o’r newydd ein hymrwymiad i’r adduned Gweithredu, Nid Geiriau 2.0 – sef addewid gan y sector cyfan, dan arweiniad Tai Pawb, i gymryd camau ystyrlon a mesuradwy i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb hiliol ym maes tai.

Mae’r adduned sydd wedi’i diweddaru yn galw ar sefydliadau tai i ddangos arweinyddiaeth, bod yn dryloyw, wynebu hiliaeth ble bynnag y mae’n ymddangos, a sicrhau bod y camau gweithredu a gymerwn yn creu newid go iawn ar gyfer y bobl yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae hefyd yn cryfhau disgwyliadau o ran monitro, adrodd ac atebolrwydd, ac yn cydnabod mai dim ond pan fyddwn yn parhau i fod yn onest y bydd cynnydd yn digwydd.

I ni yn ateb, mae hynny’n golygu gwneud mwy na siarad, a chanolbwyntio ar weithredu. Mae ein gwaith ar hyn o bryd yn cynnwys y canlynol:

  • Cryfhau ein data ynghylch cydraddoldeb ar gyfer cydweithwyr a chwsmeriaid, a fydd yn rhoi darlun cliriach i ni o ble y gallwn wella.
  • Parhau i ddarparu hyfforddiant ynghylch cydberthynas a chynhwysiant ar gyfer ein timau.
  • Cynnal arolygon ymhlith ein cydweithwyr o’u profiadau o ddioddef bwlio ac aflonyddu fel y gallwn ymateb yn gyflym, mynd i’r afael â phryderon, ac atgyfnerthu’r ffaith nad ydym yn goddef unrhyw ymddygiad o’r fath.

Mae’r camau hyn yn rhan o’n nod ehangach, sef creu gweithle teg, cynhwysol a chroesawgar – gweithle lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael cyfle cyfartal a’u bod yn perthyn yn wirioneddol iddo.

Yn rhan o’r ymrwymiad hwn, gwnaethom groesawu Stori yn ddiweddar i ddarparu hyfforddiant eleni ynghylch cydraddoldeb a chynhwysiant. Buodd ei sesiwn yn canolbwyntio ar ddeall sut y mae anghydraddoldeb systemig yn effeithio ar gymunedau heddiw a pham y mae’r camau gweithredu a gymerwn fel sefydliadau’n bwysig o hyd.

Buodd Ceri, ein Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol, yn myfyrio ynghylch y sesiwn:

“Dangosodd Stori fideo diweddar o unigolion yn rhannu eu profiad go iawn o hiliaeth – roedd yn hynod o bwerus. Roedd yn ein hatgoffa’n gwbl glir o’r rhesymau pam y mae’r camau cadarnhaol a gymerwn i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau cynhwysol, ac i sicrhau bod ein timau a’n cwsmeriaid yn cael cyfle cyfartal, yn gamau mor bwysig. Rydym am i bawb deimlo eu bod yn perthyn i ateb, ac mae hyfforddiant fel hyn yn atgyfnerthu pwysigrwydd ein gwerthoedd ac yn atgyfnerthu pam y maent yn bwysig.”

Mae yna waith i’w wneud eto – ar draws y sector ac yn fewnol yma – ond mae Gweithredu, Nid Geiriau 2.0 yn rhoi i ni fframwaith clir a chyffredin ar gyfer symud ymlaen o hyd, herio hunanfodlonrwydd, a sicrhau bob amser bod cydraddoldeb wrth wraidd yr hyn a wnawn.

Mae cydberthynas yn rhan o’n DNA – ac rydym wedi ymrwymo i droi geiriau’n weithredoedd.

Cyhoeddwyd 17/12/2025