Rhedeg busnes o’ch cartref

Ydych chi’n ystyried rhedeg busnes o’ch cartref? P’un a ydych yn dechrau menter fach neu’n ehangu menter sy’n bodoli’n barod, mae’n bwysig deall pa ganiatâd y bydd ei angen a deall eich cyfrifoldebau.

A oes angen caniatâd arnoch?

Os ydych yn gwsmer i ateb ac yn bwriadu rhedeg busnes o’ch cartref, bydd yn rhaid i chi wneud cais am ganiatâd. Bydd angen i ni sicrhau na fydd eich busnes:

  • Yn achosi niwsans i gymdogion
  • Yn arwain at ormod o sŵn, traffig neu aflonyddwch
  • Yn gofyn am newidiadau i strwythur eich cartref
  • Yn torri rheoliadau iechyd a diogelwch.

  • Pryd yr ydym yn debygol o roi caniatâd

  • Effaith ar yr amgylchedd

  • Enghreifftiau o fusnesau y gallem eu cymeradwyo

  • Busnesau na fyddwn yn eu cymeradwyo

  • Gofynion o ran yswiriant

  • Cydymffurfio â’r gyfraith ar gyfer busnesau bwyd

  • Asesiadau risg

  • Cynllunio ar gyfer argyfwng

  • Hysbysebu

  • Cymorth i fusnesau newydd

  • Cymorth a grantiau busnes

Pethau i’w hystyried

Cyn dechrau eich busnes, bydd angen i chi ystyried:

  • Eich contract meddiannaeth – Mae’n bosibl y bydd rhai contractau’n cyfyngu ar ddefnydd at ddibenion busnes.
  • Caniatâd cynllunio – Mae’n bosibl y bydd angen caniatâd cynllunio os yw eich busnes yn golygu bod llawer o nwyddau’n cael eu danfon i’ch eiddo, bod arwyddion yn cael eu codi neu’ch bod yn cael ymweliadau gan gwsmeriaid.
  • Yswiriant – Mae’n bosibl na fydd yswiriant arferol eich cartref yn cynnwys gweithgareddau busnes, felly gwiriwch eich polisi.
  • Ardrethi busnes a threthi – Gallai rhedeg busnes o’ch cartref effeithio ar ardrethi busnes neu’ch treth gyngor. Ewch i GOV.UK i gael mwy o fanylion.

Sut mae gwneud cais

I wneud cais am ganiatâd i redeg busnes o’ch cartref a ddarperir gan ateb, llenwch ein ffurflen gais ar-lein:

Gwnewch gais yma

Sicrhewch fod y ffurflen yn cael ei dychwelyd gyda’r holl ddogfennau ategol perthnasol – megis dyfynbrisiau ar gyfer yswiriant busnes.

Wedi i chi gyflwyno’r ffurflen, bydd ein tîm yn adolygu eich cais ac yn cysylltu â chi os oes angen mwy o wybodaeth.

Angen mwy o gyngor? Cysylltwch â ni drwy anfon ebost i [email protected] a byddwn yn falch o’ch helpu!

Cymryd rhan yn ateb

Talu eich rhent

Sôn am waith atgyweirio

Gofyn am apwyntiad

Mae siarad â ni yn hawdd.

Am unrhyw ymholiadau neu faterion, anfonwch e-bost atom ar [email protected]

Dewch i mewn i siarad â ni wyneb yn wyneb, yn SA61 1QP →

Ffoniwch a siaradwch ag un o’n tîm hyfryd ar
01437 763688 →