O waliau oer i gartrefi clyd: gwneud gwaith ôl-osod ym Maes-y-Môr

John sy’n rhannu ei brofiad o’r gwelliannau ôl-osod a gyflawnwyd yn ddiweddar yn ei gartref.

Mae John yn byw ym Maes-y-Môr ers sawl blwyddyn, ac yn ddiweddar cafodd gwaith uwchraddio’n ymwneud ag effeithlonrwydd ynni ei gyflawni yn ei gartref, yn rhan o’n rhaglen ôl-osod barhaus. Er bod y gwaith wedi’i gwblhau erbyn hyn, mae John yn cofio nad oedd yr amodau ar y dechrau’n ddelfrydol o bell ffordd.

Straeon Go Iawn, Effaith Go Iawn

Beth oedd barn ein cwsmeriaid?

“Fe ddechreuon nhw osod y sgaffaldiau ychydig ar ôl y Nadolig, a oedd yn adeg wael i wneud hynny. Doedd y tywydd ddim yn ffafriol, ac roedden nhw’n brin o staff, felly doedd pethau ddim yn digwydd yn gyflym i ddechrau. Byddai wedi bod yn well pe baent wedi aros am dywydd sychach, ond er tegwch i aelodau’r tîm, gwnaethant fwrw ati a pharhau i weithio, hyd yn oed yn y glaw.”

Er gwaetha’r oedi, roedd John yn fodlon â sut y cafodd y gwaith ei gyflawni. “Ni chefais unrhyw broblemau o gwbl gyda’r bechgyn. Roeddent yn dda. Roeddent yn gwrtais, yn dangos parch ac yn bwrw ymlaen â’u gwaith. Rwy’n gwybod bod y lle’n mynd yn oer ac yn wyntog yn y gaeaf, felly mae unrhyw beth sy’n cadw’r gwres i mewn yn beth da.”

Cafodd deunydd inswleiddio ei osod ar waliau allanol cartref John, cafodd fentiau eu gosod yn y to a chafodd gwelliannau eraill eu gwneud hefyd. “Roedd y sgaffaldiau wedi’u gosod cyn y flwyddyn newydd, a gwnaethant orffen yn ystod y pythefnos diwethaf. Dim ond ychydig ddiwrnodau gymerodd hi i osod y deunydd inswleiddio ar y waliau, ac o ran gweddill y gwaith bu’n rhaid aros am gyfnodau o dywydd sych er mwyn gallu rendro a phaentio.”

Pan ofynnwyd i John a oedd yn teimlo bod y gwaith wedi tarfu llawer arno, atebodd John yn syth i ddweud nad oedd: “Dim o gwbwl. Rhaid i chi oddef ychydig o ddrilio a sŵn am ddiwrnod neu ddau. Ond maent yn gweithio y tu allan, a does dim angen iddynt ddod drwy’r tŷ. Roeddent yn wych o ran hynny. Roeddwn i’n agor y giât gefn, dyna i gyd, ac yn eu gadael i fwrw ati. Roeddwn yn dweud wrthynt os oedd angen i fi fynd allan, a doedd hynny byth yn broblem.”

Roedd John yn arbennig o ddiolchgar i George, y rheolwr safle, am ei ymdrechion. “Roedd bob amser o gwmpas i wneud yn siŵr bod popeth yn iawn, a byddai’r tîm yn gadael pethau wrth ymyl y drws, felly roeddwn yn gwybod beth fyddai’n digwydd nesaf. Roedd y cyfathrebu’n ardderchog. Os oedd yna unrhyw oedi, fe oedd y cyntaf i roi gwybod i ni.”

Newydd gael eu cwblhau y mae’r newidiadau, felly nid yw manteision hirdymor yr inswleiddio’n amlwg eto, ond mae John yn obeithiol. “Dydw i ddim wedi sylwi ar lawer o newid eto, ond rydym newydd gael cyfnod o dywydd cynnes. Byddaf yn siŵr o weld yn y gaeaf a yw’n cadw’r gwres i mewn. Rwy’n teimlo yn barod bod y tŷ yn anadlu’n well, ac rwy’n gobeithio na fydd yn chwysu pan fydd yr haf yn poethi. Maent wedi gosod fentiau, felly dylai popeth fod yn iawn.”

Mae John yn glir ynghylch un peth: mae’n werth gwneud y gwaith. “Rhaid i chi oddef ychydig o darfu, ond nid yw’n ddim byd mawr. Ychydig o ddiwrnodau swnllyd ac ychydig o aros am dywydd caredig. Yn y pen draw, bydd yn golygu bod y tŷ’n gynhesach, ac mae’n edrych yn well o lawer yn barod.”

A’i gyngor i gwsmeriaid eraill? “Ewch amdani. Yn bendant. Mae’r gwelliant i’r eiddo yn amlwg. Hyd yn oed os oes rhywfaint o oedi, nid yw’r cyfnod y maent yn ei dreulio’n gweithio ar eich cartref yn hir – pythefnos ar y mwyaf. Mae’n anghyfleustra bach er mwyn cael rhywbeth a fydd yn gwella eich cartref am flynyddoedd i ddod.”

Roedd y gwelliannau ym Maes-y-Môr yn bosibl o ganlyniad i grant gwerth £1 filiwn gan Lywodraeth Cymru, sy’n hybu gwaith uwchraddio’n ymwneud ag effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi ledled Cymru.

Mae’r gwaith hwn yn rhan o’n siwrnai ehangach tuag at Sero Net, sy’n gwneud cartrefi’n fwy cyffyrddus, yn lleihau’r defnydd o ynni ac yn lleihau allyriadau carbon. Drwy gyflwyno mesurau megis deunydd inswleiddio ar waliau allanol, rydym nid yn unig yn helpu ein cwsmeriaid i leihau costau a chadw’n gynnes ond hefyd yn chwarae ein rhan i greu dyfodol mwy cynaliadwy i bawb.

Cyhoeddwyd 24/06/2025