Yn rhan o’n hadolygiad GDPR parhaus, mae ateb yn cymryd camau i sicrhau bod y wybodaeth sydd gennym am ein cwsmeriaid yn cael ei defnyddio’n gywir ac yn unol â rheoliadau diogelu data.
Ar hyd y blynyddoedd, rydym wedi bod yn ychwanegu baneri defnyddiol at ein systemau er mwyn sicrhau bod ein timau’n ymwybodol o wybodaeth bwysig pan fyddant yn ymweld â chartrefi ein cwsmeriaid. Gall y baneri hynny gynnwys pethau megis dementia, nam ar y golwg neu’r clyw, anifeiliaid anwes ymosodol neu sefyllfaoedd lle’r ydym yn cynghori aelodau ein timau, am resymau diogelwch, i beidio ag ymweld â’r eiddo ar eu pen eu hunain.
Rydym wrthi’n awr yn ysgrifennu at ein cwsmeriaid sydd â baner yn eu cofnodion, er mwyn:
- Cadarnhau bod angen y faner o hyd ar eu cyfrif
- Esbonio pam y cafodd y penderfyniad ei wneud
- Rhoi cyfle iddynt drafod y penderfyniad neu apelio yn ei erbyn os ydynt yn teimlo nad yw’r faner yn angenrheidiol erbyn hyn.
Mae’n bosibl bod rhai cwsmeriaid wedi cael y llythyrau’n barod, yn rhan o’r broses adolygu, a byddwn yn parhau i gysylltu â chwsmeriaid eraill yn ystod yr wythnosau sydd i ddod.
Yn ateb, rydym yn adolygu’r baneri diogelwch hyn yn rheolaidd bob 3 i 6 mis er mwyn sicrhau eu bod wedi’u diweddaru a’u bod yn adlewyrchu’r amgylchiadau cyfredol.
Pam yr ydym yn gwneud hyn?
Mae’n rhan o’n hymrwymiad nid yn unig i sicrhau bod ein timau’n ddiogel ond hefyd i barhau i ddarparu’r gwasanaethau gorau posibl i chi, ein cwsmeriaid.
Meddai Amy, Arweinydd y Tîm Atebion o ran Tai:
“Mae’n wirioneddol bwysig i ni ein bod yn gweithio mewn modd agored a thryloyw. Mae ysgrifennu at ein cwsmeriaid i esbonio pam y mae gennym rai baneri yn eu cofnodion yn un enghraifft yn unig o hynny. Rydym bob amser yn ceisio sicrhau’r cydbwysedd iawn rhwng darparu gwasanaeth gwych a diogelu lles ein timau.”
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â’ch Cydlynydd Tai neu anfon ebost atom yn: [email protected]