Mae eu cyfrifoldebau llywodraethu lefel uchel yn canolbwyntio ar:
Caiff gweledigaeth y Bwrdd ynghylch sut y dylai ateb gyflawni ei rwymedigaethau ei hegluro mewn dogfen o’r enw ‘Vision’. Mae’r Bwrdd yn monitro ateb ar sail y ddogfen hon er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei lywodraethu’n effeithiol.
Mae’r Bwrdd yn gweithredu’n unol â ‘Fframwaith Rheoleiddio’ Llywodraeth Cymru ac mae’n cwrdd tua 12 gwaith y flwyddyn. Mae ganddo nifer o is-bwyllgorau i’w gynorthwyo gyda’i waith:
Mae gan bob un o’n his-gwmnïau, sef Mill Bay Homes, Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru ac Effective Building Solutions, eu Byrddau eu hunain sy’n adrodd wrth riant-Fwrdd ateb yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Cadeirydd
Mae gan David brofiad helaeth o weithio yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus. Dechreuodd ar ei yrfa fel Drafftsmon Peirianneg Drydanol cyn symud i weithio fel Rheolwr Cyfleusterau gyda BT gan ennill cymhwyster ôl-raddedig mewn Astudiaethau Rheoli. Ymunodd David â’r GIG yn 1994 fel Cyfarwyddwr Cyfleusterau yng Ngwent cyn ymgymryd â swydd y Pennaeth Gwasanaethau Contractau ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. Yn 2004 cafodd ei benodi’n Gyfarwyddwr Gwasanaethau i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys, a phenderfynodd ymddeol yn 2010. Mae gan David brofiad o weithio yn y sector tai, oherwydd bu’n Is-gadeirydd ac yna’n Gadeirydd cymdeithas dai yng Nghaerdydd am 6 blynedd cyn ymuno ag ateb.
Is-gadeirydd
Mae Hugh yn rheolwr profiadol ar lefel Bwrdd ar ôl iddo fod yn gweithio ar lefel strategol yn rhyngwladol gyda rhai o gwmnïau mawr rhagorol y FTSE 100 mewn meysydd allweddol megis Gwerthu, Marchnata, TG, Caffael a Logisteg. Mae gan Hugh gymhwyster ôl-raddedig ac arferai fod yn swyddog â chomisiwn yn y fyddin. Bu’n gwasanaethu ym myddin Awstralia ac ym myddin Prydain.
Mae Jade yn Frocer/Rheolwr Morgeisi Annibynnol yn Willcox Financial Limited ac mae wedi treulio’r rhan fwyaf o’i gyrfa yn gweithio fel uwch-swyddog yn y sector bancio. Mae gan Jade brofiad helaeth o ddarparu cyngor ariannol i gleientiaid ac mae ganddi Ddiploma mewn Cyflawni Busnes ym maes Bancio Manwerthol.
Mae Owen yn Gyfarwyddwr ymgynghoriaeth annibynnol ym maes cynllunio trefol, sy’n gweithredu yng Nghymru a Lloegr. Mae ganddo brofiad helaeth o weithio ym maes cynllunio a datblygu, ac mae’n Gynllunydd Trefol Siartredig ac yn Aelod o’r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol. Mae gwaith Owen ar hyn o bryd yn ymwneud â gweithio gyda thirfeddianwyr a datblygwyr preifat ar ystod o gynlluniau datblygu strategol sy’n cynnwys safleoedd o bwys ar gyfer datblygiadau defnydd cymysg; hyrwyddo cynlluniau datblygu; ymdrin â cheisiadau cynllunio; cynnal Asesiadau o Effeithiau Amgylcheddol; ac ymdrin ag ymholiadau gan y cyhoedd. Mae gan Owen radd MSc mewn Datblygu Eiddo Preswyl.
Am unrhyw ymholiadau neu faterion, anfonwch e-bost atom ar [email protected] →
Dewch i mewn i siarad â ni wyneb yn wyneb, yn SA61 1QP →
Ffoniwch a siaradwch ag un o’n tîm hyfryd ar
01437 763688 →