Mae ‘Fy Nghyfrif’ ar gau

Mae cyfleuster ‘Fy Nghyfrif’ ateb wedi cau, ac nid oes modd mwyach i ni ei ddiweddaru na’i gynnal. Y rheswm am hynny yw nad yw’r system a oedd yn cynnal ‘Fy Nghyfrif’ o’r blaen ar gael erbyn hyn.

Os ydych yn gallu mewngofnodi i system ‘Fy Nghyfrif’ o hyd gan ddefnyddio hen ddolen gyswllt, bydd y wybodaeth yn hen ac yn anghywir.

Rydym yn gweithio’n galed i greu porth newydd i gwsmeriaid, a fydd yn well ac yn haws i’w ddefnyddio.

Rydym yn gobeithio na fydd hynny’n cymryd llawer o amser a hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.

Gallwch barhau i gysylltu â ni yn ôl yr arfer drwy anfon ebost i [email protected] neu ffonio 01437 763688.

Beth y dylwn ei wneud os ydw i fel rheol yn talu fy rhent ar y wefan ‘Fy Nghyfrif’?

Mae gennym nifer o ffyrdd y gallwch dalu eich rhent, ac mae ein tîm gwasanaethau i gwsmeriaid wrth law i gynnig cyngor a help os oes arnoch eu hangen.

Debyd Uniongyrchol

Dyma’r ffordd hawsaf o dalu a’r ffordd sy’n cynnig yr hyblygrwydd mwyaf i chi. Gallwn drefnu Debyd Uniongyrchol ar gyfer unrhyw ddiwrnod o’ch dewis.

I drefnu Debyd Uniongyrchol, dylech lenwi ein Ffurflen Debyd Uniongyrchol a’n Ffurflen Mandad Debyd Uniongyrchol a’u hanfon yn ôl i [email protected]

Ond os yw’n well gennych wneud y taliad eich hun bob mis, gallwch bob amser fynd i wefan allpay yma neu lawrlwytho ap allPay o siop apiau Apple neu Google Play. Bydd angen eich cyfeirnod talu 19 rhif arnoch i wneud y taliadau eich hun fel hyn – rhowch ganiad i ni os nad yw’r cyfeirnod gennych.

Mae’r holl wahanol ffyrdd y gallwch dalu eich rhent i’w gweld ar y dudalen ‘Ffyrdd o dalu eich rhent’ ar ein gwefan.

Cymryd rhan yn ateb

Talu eich rhent

Sôn am waith atgyweirio

Gofyn am apwyntiad

Mae siarad â ni yn hawdd.

Am unrhyw ymholiadau neu faterion, anfonwch e-bost atom ar [email protected]

Dewch i mewn i siarad â ni wyneb yn wyneb, yn SA61 1QP →

Ffoniwch a siaradwch ag un o’n tîm hyfryd ar
01437 763688 →