Tendr newydd – Gwaith Ôl-osod ateb

Erbyn hyn, rydym wedi cyhoeddi tendr Gwaith Ôl-osod ateb ar GwerthwchiGymru, sy’n cynnig ystod o gyfleoedd i sefydliadau a fyddai’n hoffi gweithio mewn partneriaeth â Grŵp ateb i gyflawni gwaith wedi’i gynllunio a gwaith ôl-osod o safon ar draws gorllewin Cymru.
D.S. Dyddiad cau: 6 Mawrth 2026

Mae gennym 7 lot:

  • Gwaith trydanol wedi’i gynllunio
  • Gwaith mecanyddol wedi’i gynllunio
  • Gwaith ôl-osod trydanol
  • Gwaith ôl-osod mecanyddol
  • Adeiladwaith
  • Tŷ cyfan
  • Gwasanaeth ymgynghori am waith mecanyddol a thrydanol

Caiff pob lot ei chaffael am yr un cyfnod contractio: 2 flynedd + 1 flwyddyn + 1 flwyddyn, a fydd yn rhoi sicrwydd am gyfnod hirach ac yn galluogi trefniadau gweithio mewn partneriaeth.

Dolen gyswllt GwerthwchiGymru: https://lnkd.in/ehSJ6Zrr

Byddwn yn cynnal Diwrnod Cwrdd â’r Contractwr ddydd Mawrth 24 Chwefror 2026, a fydd yn rhoi cyfle i ddarpar bartneriaid:

  • Gwrdd â thîm ateb
  • Dysgu mwy am ein huchelgeisiau o ran gwaith ôl-osod
  • Deall sut brofiad yw gweithio gydag ateb

Neuadd y Frenhines, Arberth – Y Brif Neuadd (ar y llawr gwaelod)

12:00 i 12:30pm – Cofrestru, paned a rhwydweithio

12:30 i 1:30pm – Cyflwyniad a sesiwn holi ac ateb

1:30 – Cwrdd â thimau ateb a JPS

Mae croeso i chi adael unrhyw bryd wedyn

Mae gweithio gydag ateb yn cynnig cyfle i bartneriaid chwarae rôl ystyrlon yn y gwaith o greu cymunedau gwell ar draws gorllewin Cymru, gan ddarparu cartrefi o safon sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â thîm ymroddgar a phrofiadol sy’n gwerthfawrogi cydweithio, tryloywder a phartneriaethau hirdymor, sy’n creu amgylchedd cadarnhaol a chefnogol ar gyfer cyflawni. Rydym hefyd yn cynnig telerau talu ardderchog, sy’n rhoi sicrwydd ariannol ac yn helpu ein partneriaid i ganolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf – sef cyflawni canlyniadau o safon ar gyfer ein cwsmeriaid a’n cymunedau.

Rhaid i unrhyw geisiadau am eglurhad gael eu hanfon drwy borth GwerthwchiGymru.

Edrychwn ymlaen at ymgysylltu â sefydliadau sydd wedi ymrwymo fel ninnau i wella cartrefi, lleihau carbon, a sicrhau budd parhaol i gymunedau ledled gorllewin Cymru.

Cyhoeddwyd 16/02/2026