Os byddwch yn dweud wrthym y gallech eich anafu eich hun
Os byddwch yn cysylltu ag ateb ac yn dweud wrthym y gallech eich anafu eich hun, y gallech ddod â’ch bywyd i ben neu nad ydych yn teimlo’n ddiogel, byddwn yn cymryd y mater o ddifrif.
Bydd ein haelodau o staff yn gwrando, ni fyddant yn cynhyrfu, a byddant yn ceisio deall a ydych mewn perygl yn y fan a’r lle. Os byddwn yn credu bod yna berygl i’ch bywyd neu’ch diogelwch, mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â’r gwasanaethau brys neu’n rhannu’r wybodaeth â gwasanaethau cymorth perthnasol er mwyn helpu i’ch cadw yn ddiogel.
Nid yw ein haelodau o staff yn glinigwyr iechyd meddwl, ond maent wedi cael eu hyfforddi i adnabod pryderon am ddiogelu a’u huwchgyfeirio yn briodol.
Efallai y byddwn yn gofyn cwestiynau uniongyrchol i chi, megis ble’r ydych chi, a ydych ar eich pen eich hun, ac a ydych wedi eich niweidio eich hun yn barod neu a oes gennych rywbeth gerllaw y gallech ei ddefnyddio i’ch anafu eich hun.
Os ydych mewn perygl yn y fan a’r lle, ffoniwch 999.
Cyfrinachedd a’ch diogelwch
Byddwn yn parchu eich preifatrwydd ac ni fyddwn yn rhannu gwybodaeth bersonol oni bai bod yna reswm clir dros wneud hynny.
Fodd bynnag, mewn argyfwng, mae cyfraith diogelu data’n caniatáu i wybodaeth gael ei rhannu os yw hynny’n ofynnol er mwyn achub bywyd rhywun neu atal niwed difrifol. Gallai olygu ein bod yn ffonio 999 ac yn rhannu gwybodaeth berthnasol megis eich enw, eich dyddiad geni, eich manylion cyswllt, eich lleoliad a’r pryderon yr ydych wedi sôn wrthym amdanynt.
Mae help ar gael
Os oes angen i chi siarad â rhywun ar frys ond nad yw’n argyfwng 999, gallwch gysylltu â’r canlynol:
- Y Samariaid: 116 123, am ddim, 24 awr y dydd
- GIG 111 Cymru: 111
- Gwasanaeth tecstio Shout: Tecstiwch SHOUT i 85258
- C.A.L.L. Llinell Gymorth Iechyd Meddwl ar gyfer Cymru: 0800 132 737 neu tecstiwch HELP i 81066
