Prydau bwyd cymunedol am ddim yn dod i Oriel VC yn Noc Penfro

Os ydych yn byw ger Oriel VC yn Noc Penfro, mae yna gyfle gwych i chi fwynhau ychydig o fwyd iach am ddim sydd wedi’i goginio yn ffres a chysylltu â phobl eraill yn eich cymuned.

Bydd Oriel VC yn cynnig prydau bwyd iach, cymunedol, wythnosol am ddim bob dydd Mercher am chwe wythnos, gan ddechrau ar 1 Ebrill 2026.

Bydd y sesiwn galw heibio’n un hamddenol, felly gallwch ymuno pryd bynnag sy’n gyfleus i chi.

Beth y gallwch ei ddisgwyl?

  • Prydau bwyd iach am ddim sydd wedi’u coginio yn ffres, bob wythnos
  • Cyfle i fwyta yn yr oriel neu i fynd â bwyd adre gyda chi
  • Amgylchedd croesawgar, cyfeillgar
  • Cyfle i rannu eich adborth a llunio sesiynau’r dyfodol

Mae’r sesiynau yn rhan o brosiect hyfforddiant a gefnogir gan Tesco ac Oriel VC, sy’n helpu pobl i feithrin sgiliau ac yn cynorthwyo’r gymuned leol ar yr un pryd.

Ceir cyfle hefyd i gael gwybod mwy am hyfforddiant Lefel 2 ynghylch Hylendid Bwyd, os oes gennych ddiddordeb mewn hyfforddiant o’r fath.

Cysylltiad lleol

Mae’n bosibl y byddwch yn adnabod James Silbers o Gwmni Buddiant Cymunedol Silbers, sydd wedi bod yn gweithio gydag un o’n cwsmeriaid yn Boundary View ar ôl sicrhau cyllid gan Ymddiriedolaeth ateb ar gyfer hysbysfwrdd cymunedol newydd. Mae’n wych gweld bod y bartneriaeth honno’n parhau i fod o fudd i’r gymuned ehangach.

Cael gwybod mwy

📍 Oriel VC, Doc Penfro
📅 Bob dydd Mercher (o 1 Ebrill ymlaen am 6 wythnos)
📧 Ymholiadau am hyfforddiant: [email protected]

Does dim angen cadw lle – galwch heibio a mwynhewch.

Cyhoeddwyd: 01/04/26