Mae miloedd o ddyfeisiau y gellir eu defnyddio’n cael eu taflu i ffwrdd bob blwyddyn, ac ar yr un pryd mae llawer o bobl yn dal i fethu â chael mynediad i’r byd digidol. Drwy’r Banc Dyfeisiau Cenedlaethol, mae ateb yn helpu i gau’r bwlch hwnnw.
Cafodd y Banc Dyfeisiau Cenedlaethol ei greu gan y Good Things Foundation, ac mae’n dod o hyd i gartref newydd ar gyfer dyfeisiau wedi’u rhoi a fyddai fel arall yn mynd i safleoedd tirlenwi. Caiff pob dyfais ei hadnewyddu a’i dosbarthu drwy’r Rhwydwaith Cynhwysiant Digidol Cenedlaethol i bobl y mae arnynt angen y dyfeisiau fwyaf.
Yn rhan o’r fenter, mae gan ateb amryw ffonau symudol wedi’u hadnewyddu sydd ar gael i gwsmeriaid sydd wedi’u hallgáu yn ddigidol ac sy’n methu â chael mynediad i’w dyfais eu hunain. Bydd y ffonau’n cael eu rhoi yn uniongyrchol i gwsmeriaid neu aelodau o’u haelwyd sy’n bodloni’r meini prawf.
Mae’r dyfeisiau yn cynnwys ystod o fodelau, megis ffonau iPhone, Google Pixel, Samsung Galaxy a Nokia. O’u paru â data rhad ac am ddim gan y Banc Data Cenedlaethol, byddant yn helpu pobl i gael mynediad i wasanaethau hanfodol, cadw mewn cysylltiad â’u teulu a’u ffrindiau, datblygu sgiliau digidol a chynnal cysylltiadau mewn byd sy’n mynd yn fwyfwy digidol.
Mae’r fenter hon nid yn unig yn hybu cynhwysiant digidol ond hefyd yn helpu i leihau gwastraff electronig, ac yn rhoi ail fywyd i dechnoleg gan wneud gwahaniaeth go iawn ar yr un pryd mewn cymunedau lleol.
I fod yn gymwys, rhaid i gwsmeriaid fod dros 18 oed a rhaid eu bod yn methu â chael mynediad i ddyfais symudol. Caiff unrhyw rai sy’n meddwl y gallent gael budd o’r cynllun eu hannog i gysylltu â ni.
I gael gwybod mwy, cysylltwch ag
Andrew ar 07508 498855
neu ffoniwch

