
Cysylltwch os hoffech roi gwybod i ni am unrhyw angen am waith atgyweirio!
Gallwch roi gwybod i ni am unrhyw angen am waith atgyweirio gan ddefnyddio un o’r ffyrdd canlynol:
- Drwy Fy Nghyfrif ateb – Defnyddio eich
Cyfrif Ar-lein personol
- Drwy ebost – [email protected]
- Drwy ffonio – 0800 854568
Gallwch ein helpu mewn sawl ffordd pan fyddwch yn cyflwyno eich cais. Darllenwch y gwe-ganllawiau isod – gallent fod yn ddefnyddiol.
Bydd rhagor o we-ganllawiau ar gael yn fuan…
Cyfrifoldebau atgyweirio
Ein cyfrifoldebau ni: Mae cadw eich cartref mewn cyflwr da yn gyfrifoldeb a rennir rhyngoch chi ac ateb. Drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn sicrhau bod eich cartref yn cael ei gynnal a’i gadw i’r safon uchaf posibl.
Eich cyfrifoldebau chi: Mae eich rhent yn cynnwys taliad tuag at gost y rhan fwyaf o atgyweiriadau, ond mae gennych chithau fân gyfrifoldebau hefyd o safbwynt cynnal a chadw eich cartref.
Mae rhagor o fanylion i’w cael yn y rhestr o Gyfrifoldebau’r Tenant a’r Landlord o safbwynt Atgyweirio.
Mae ein gwasanaeth atgyweirio’n gweithredu 24 awr y dydd 7 diwrnod yr wythnos. Nodwch mai dim ond argyfyngau neu waith a gynlluniwyd ymlaen llaw fydd yn cael sylw’r gwasanaeth y tu allan i oriau swyddfa ac ar benwythnosau.