Rhent
Mae eich rhent yn talu am y canlynol:
- Taliadau morgais ar yr arian a fenthyciwyd i adeiladu neu brynu eich cartref.
- Gwaith atgyweirio a gwella, a’r staff sy’n darparu gwasanaethau i chi.
Bob blwyddyn byddwn yn adolygu cost rhent i’n cwsmeriaid, gan wneud yn siŵr ein bod yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru a’n bod yn ystyried fforddiadwyedd.
Mae ein Polisi Pennu Rhenti Fforddiadwy (y gellir ei ddarllen yma) yn egluro sut yr ydym yn pennu pob math o wahanol renti ar gyfer ein cartrefi, gan sicrhau eu bod yn deg ac yn fforddiadwy i’n cwsmeriaid.
Taliadau gwasanaeth
Mae taliadau gwasanaeth yn talu am y gwasanaethau penodol rydych yn eu cael gennym. Mae’r taliadau am bob gwasanaeth yn seiliedig ar gost wirioneddol darparu’r gwasanaeth hwnnw yn ystod y flwyddyn flaenorol.
Mae’r rhan fwyaf o daliadau gwasanaeth yn gymwys ar gyfer budd-dal tai a Chredyd Cynhwysol ond mae nifer fach ohonynt yn anghymwys, e.e. taliadau’n ymwneud â threthi dŵr, larwm cymunedol neu orsaf bwmpio.
Dyma grynodeb o rai o’r prif daliadau gwasanaeth, a’r hyn rydych yn talu amdano:
Tâl gwasanaeth |
Beth mae’n talu amdano |
Glanhau ardaloedd cyffredin | Glanhau ardaloedd cyffredin y man lle’r ydych yn byw |
Trydan ardaloedd cyffredin | Cost trydan ar gyfer goleuadau stryd mewn ystadau nad ydynt wedi’u mabwysiadu a/neu gost trydan ar gyfer goleuadau mewn ardaloedd cyffredin yn y man lle’r ydych yn byw |
Cynnal a chadw tir | Cost torri glaswellt a chynnal a chadw ardaloedd cyffredin allanol eich ystâd neu’ch cynllun |
Erial teledu cyffredin | Cost darparu a chynnal a chadw erial teledu cyffredin ar eich ystâd, yn eich cynllun neu yn eich bloc o fflatiau |
Offer tân | Cost darparu a chynnal a chadw offer tân yn eich eiddo, eich cynllun neu’ch bloc o fflatiau |
Gwres/dŵr poeth mewn ardaloedd cyffredin | Cost darparu gwres a/neu ddŵr poeth yn ardaloedd cyffredin y man lle’r ydych yn byw |
Rheolwr Cynllun | Cost darparu aelod o staff i sicrhau bod y cynllun tai gwarchod neu’r cynllun gofal ychwanegol lle’r ydych yn byw yn cael ei gynnal a’i gadw yn dda a’i fod yn ddiogel |
Cynnal a chadw teledu cylch cyfyng | Cost darparu a chynnal a chadw offer teledu cylch cyfyng yn ardaloedd cyffredin y man lle’r ydych yn byw |
Cynnal a chadw lifft | Cost rhoi gwasanaeth i’r lifft sydd yn eich cynllun/bloc o fflatiau a chost cynnal a chadw’r lifft |
Larwm cymunedol | Cost gosod larwm yn eich eiddo, sy’n darparu gwasanaeth ymateb 24 awr mewn argyfwng |
Trethi dŵr | Cost darparu cyflenwad dŵr i’ch fflat chi |
Gorsaf bwmpio/Gwaith trin carthion | Cost darparu gwasanaethau trin dŵr ar gyfer eich eiddo |
Os ydych yn talu tâl gwasanaeth am lanhau ardaloedd cyffredin, dyma’r fanyleb y mae’n rhaid i’r contractwr glanhau lynu wrthi – Manyleb Glanhau Ardaloedd Cyffredin – Ardaloedd Cyffredin
Os ydych yn talu tâl gwasanaeth am gynnal a chadw tir, dyma’r fanyleb y mae’n rhaid i’r contractwr cynnal a chadw tir lynu wrthi – Ardaloedd Cyffredin – Manyleb y Contract Cynnal a Chadw Tir
Os ydych yn byw mewn cynllun tai gwarchod neu gynllun gofal ychwanegol, mae’r manylebau ar gyfer glanhau ardaloedd cyffredin a chynnal a chadw tir yn wahanol – Manyleb Glanhau Ardaloedd Cyffredin – Cynlluniau Tai Gwarchod
Cynlluniau Tai Gwarchod a Chartrefi Gydol Oes – Manyleb y Contract Cynnal a Chadw Tir
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am daliadau gwasanaeth neu unrhyw adborth am y gwasanaethau rydych yn eu cael, mae croeso i chi gysylltu â ni yn hello@atebgroup.co.uk
Gallwch ddysgu am hawliau a rhwymedigaethau tenantiaid o safbwynt taliadau gwasanaeth yma – Hawliau a rhwymedigaethau tenantiaid – taliadau gwasanaeth