Mae ein Tîm Rheoli Gweithredol yn cynnwys y Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwr Cyllid, y Cyfarwyddwr Tai a’r Cyfarwyddwr Eiddo.
Ar y cyd, mae’r tîm yn troi cyfeiriad strategol a chorfforaethol y Bwrdd yn waith cyflawni gweithredol. Dyma’r tîm:
Prif Weithredwr
Mae Nick wedi bod yn gweithio i gymdeithasau tai ers dros 25 mlynedd, mewn swyddi ym maes datblygu eiddo a buddsoddi yng Nghymru a Lloegr cyn ymgymryd â’r swydd hon. Mae Nick yn awyddus i wella ac ehangu gwasanaethau ateb i gwsmeriaid, drwy rymuso a datblygu timau gwych a gefnogir gan drefniadau cydweithio cadarn â chwsmeriaid a phartneriaid ateb a’r cymunedau ehangach y mae ateb yn eu gwasanaethu.
Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu
Mae Will yn Syrfëwr Siartredig cymwys sy’n goruchwylio holl swyddogaethau grŵp ateb ym maes datblygu cartrefi newydd, gan gynnwys swyddogaethau Mill Bay Homes, ein his-gwmni tai preifat. Cyn ymuno ag ateb roedd Will yn rhedeg ei gwmni ymgynghori ei hun ym maes datblygu eiddo, a oedd yn gweithredu ledled y de a’r gorllewin. Roedd y cwmni’n cynnig gwasanaeth ymgynghori a chymorth ar draws pob agwedd ar y broses ddatblygu, a oedd yn cynnwys adnabod a phrosesu cyfleoedd newydd o ran datblygu; cynllunio tir a datblygu yng nghyswllt safleoedd ac adeiladau masnachol a phreswyl; a rheoli timau o ymgynghorwyr mewnol/allanol o ddechrau prosiectau i’w diwedd.
Cyfarwyddwr Gweithredol Cwsmeriaid
Mae Mark wedi treulio’r rhan fwyaf o’i yrfa yn gweithio fel uwch-swyddog gweithredol yn Llundain yn y sector statudol a’r sector gwirfoddol. Fel Pennaeth Digartrefedd buodd yn arwain y gwaith o leihau nifer y bobl sy’n cysgu allan yng nghanol Llundain tan 2008, pan benderfynodd ddychwelyd adref i Gymru ar ôl treulio bron 20 mlynedd yn y ddinas. Mae Mark wedi rhoi pwys mawr erioed ar sicrhau bod y cwsmer wrth wraidd pob peth a wna, ac mae bob amser yn awyddus i sicrhau rhagoriaeth wrth ddarparu gwasanaethau.
Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid
Mae Alex yn un o Gymrodyr y Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr. Mae ganddo radd BSc dosbarth cyntaf mewn Mathemateg o Brifysgol Bryste. Cyn ymuno ag ateb, buodd Alex yn cyflawni nifer o swyddi uwch ym maes Cyllid mewn amrywiaeth o sectorau, megis y sector adeiladu a’r sector gweithgynhyrchu bwyd. Ar ddechrau ei yrfa, cafodd ei hyfforddi tra oedd yn gweithio i Arthur Anderson, sef cwmni ymgynghori rhyngwladol ym maes archwilio a chynghori, lle’r enillodd ei gymhwyster proffesiynol a’i brofiad o archwilio. Yn ei amser hamdden mae Alex yn hoffi beicio, caiacio a hyfforddi tîm rygbi ei fab.
Mae ein Grŵp Rheolwyr yn cynnwys y prif reolwyr ar gyfer pob un o’n meysydd gwasanaeth. Eu rôl nhw yw sicrhau bod Cynllun Darparu Gwasanaethau ateb yn cyflawni’r canlyniadau iawn o ran gwasanaeth, a hynny’n effeithlon gan sicrhau profiad gwych i gwsmeriaid.
Head of Customer
Head of Corporate
Head of Property
Rheolwr Cymorth i Gwsmeriaid
Rheolwr Pobl a Chyfathrebu
Rheolwr Cynnal a Chadw
Asset & Compliance Manager
Am unrhyw ymholiadau neu faterion, anfonwch e-bost atom ar hello@atebgroup.co.uk →
Dewch i mewn i siarad â ni wyneb yn wyneb, yn SA61 1QP →
Ffoniwch a siaradwch ag un o’n tîm hyfryd ar
01437 763688 →