Mae ateb yn neilltuo swm o arian bob blwyddyn i amnewid amryw eitemau’n rheolaidd yn eich cartrefi er mwyn eu cadw mewn cyflwr da. Caiff y rhaglen honno ei galw’n rhaglen gwelliannau arfaethedig.
Yr hyn rydym yn ei wneud:
Mae gennym gylch amnewid ar gyfer yr holl elfennau unigol sydd mewn tai – ceginau, ystafelloedd ymolchi, ffenestri ac ati – a chaiff 20% o’ch cartrefi eu harolygu bob blwyddyn er mwyn galluogi ein swyddog rheoli asedau i asesu pryd y bydd angen i’r gwaith amnewid ddigwydd. Mae’n bwysig iawn ei fod yn gallu mynd i mewn i’ch cartref i gynnal ei arolwg.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi pryd y bydd yr arolwg yn cael ei gynnal, ac yn rhoi gwybod i chi am unrhyw waith y bwriedir ei gyflawni yn eich cartref. Bydd ein contractwyr yn cysylltu’n uniongyrchol â chi i drefnu bod modd iddynt fynd i mewn i’ch cartref i gyflawni’r gwaith y maent yn ei wneud ar ein rhan.
- Caiff ceginau eu hasesu er mwyn eu hamnewid bob 15 mlynedd, a byddwn bob amser yn gofyn i chi beth yr hoffech ei gael o ran wynebau gweithio, unedau a lliwiau lloriau sydd â gorffeniadau a fydd yn eich atal rhag llithro. Gallwch drafod hynny â’n tîm gwelliannau arfaethedig a’n contractwr.
- Caiff ystafelloedd ymolchi eu hasesu er mwyn eu hamnewid bob 25 mlynedd, a byddwn unwaith eto’n cynnig dewis i chi o loriau a fydd yn eich atal rhag llithro.
- Caiff ffenestri a drysau allanol eu hasesu hefyd ar sail cylch 25 mlynedd.
- Caiff pob un o’n boeleri eu hasesu er mwyn eu hamnewid bob 15 mlynedd, a chaiff systemau gwres canolog cyfan eu hasesu er mwyn eu hamnewid bob 30 mlynedd. Rydym wrthi hefyd yn gosod systemau gwres canolog sy’n defnyddio nwy, yn lle’r stôr-wresogyddion ‘Economy 7’ presennol, lle bynnag y bo modd.
- Caiff ein tai eu paentio bob 6 blynedd, a lle bo modd byddwn yn cynnig amrywiaeth o liwiau i chi ddewis o’u plith cyn ein bod yn paentio eich cartref. Unwaith eto, gallwch drafod hynny â ni a’n contractwr.
Caiff profion trydanol eu cynnal bob amser pan fydd tenantiaeth yn newid, a chaiff profion eu cynnal fel mater o drefn bob 5 mlynedd.
Dyma’r contractwyr a fydd yn cyflawni’r gwaith yn ystod y flwyddyn nesaf:
- Ffenestri newydd – Solar Windows
- Profion trydanol – tîm llafur uniongyrchol mewnol ateb
- Gwaith paentio cylchol – Master Painters
- Gwaith ffensio – David Rees Fencing
- Ystafelloedd ymolchi – WB Griffiths & Son
- Ceginau – tîm llafur uniongyrchol mewnol ateb
- Lloriau ystafelloedd ymolchi / ceginau – KO Carpets
- Boeleri – tîm llafur uniongyrchol mewnol ateb
- Synwyryddion mwg / CO2 – WB Griffiths & Son
Hoffech chi gael gwybod mwy am y gwelliannau arfaethedig ar gyfer eich cartref?
Mae croeso i chi siarad ag aelod o’n tîm cyswllt ar 01437 763688
Cod Ymddygiad – Mae’n esbonio’r ymddygiad y gallwch ei ddisgwyl pan fyddwn yn anfon contractwr i gyflawni gwaith yn eich cartref.