
Mae’r Prosiect Lles Cymunedol yn cynorthwyo ein cwsmeriaid ac yn helpu i greu cymunedau cryfach ar draws Sir Benfro.
Gallwn ddefnyddio ein fan cymorth digidol, sef ‘Dot.e’, i ddod â chymorth yn ddiogel i stepen eich drws gan gadw pellter cymdeithasol.
Gallwn eich helpu gyda thri phrif beth: lles personol, lles cymunedol a lles ariannol.
O safbwynt eich lles personol, gallwn:
- eich helpu i gyfathrebu â’ch teulu a’ch ffrindiau drwy alwad fideo, naill ai drwy gynnig hyfforddiant digidol a benthyca dyfais i chi o’n llyfrgell fenthyca neu drwy ddod â’r alwad fideo i stepen eich drws.
- eich helpu i ddewis y cysylltiad mwyaf addas â’r rhyngrwyd er mwyn i chi allu cael gafael ar gymorth ar-lein a chymuned ar-lein.
O safbwynt lles eich cymuned, gallwn:
- eich helpu i sefydlu a rhedeg grŵp cymunedol ar-lein ar gyfer eich ardal.
- eich helpu i ddysgu sut mae defnyddio grwpiau cymunedol ar-lein (Facebook ac ati).
O safbwynt eich lles ariannol, gallwn:
- eich arwain at gymorth ariannol sydd ar gael.
- eich helpu i fynd ar-lein er mwyn cael gafael ar becynnau mwy fforddiadwy ar gyfer biliau cyfleustodau.
- eich helpu i chwilio ac ymgeisio am swyddi ar-lein.
- eich helpu i ddod o hyd i hyfforddiant er mwyn ennill gwybodaeth a sgiliau newydd ar gyfer eich CV.
Os hoffech gael gwybod mwy neu gymryd rhan, cysylltwch â ni drwy anfon ebost i community@atebgroup.co.uk neu ffonio 0800 854 568.
Ac yn olaf, cofiwch gadw eich llygaid ar agor am fan Dot.e yn eich ardal chi!