Ydych chi’n cael trafferth talu eich rhent? Oes angen cyngor arnoch am fudd-daliadau? Ydych chi’n poeni am Gredyd Cynhwysol neu ddiwygiadau eraill i’r system les?
Help gyda budd-daliadau a chyngor am arian…
Cliciwch yma i drefnu apwyntiad gydag un o’n cynghorwyr budd-daliadau ac arian.
Cofiwch, rydym yma i helpu! Os bydd eich budd-daliadau’n newid, neu os oes rhaid i chi wneud cais yn awr am Gredyd Cynhwysol, rhowch wybod i ni ar unwaith drwy anfon ebost i moneysolutions@atebgroup.co.uk
Credyd Cynhwysol
Cafodd Credyd Cynhwysol ei gyflwyno ar draws pob canolfan waith yn Sir Benfro ar 5 Medi 2018 (a chyrhaeddodd Sir Gaerfyrddin ym mis Rhagfyr 2018). Cliciwch yma i gael gwybod mwy.
Y dreth ystafell wely a’r cap ar fudd-daliadau
Os oes gennych fwy o ystafelloedd gwely nag y mae Llywodraeth y DU o’r farn bod arnoch eu hangen, bydd eich budd-dal tai neu’r elfen o’ch Credyd Cynhwysol sy’n ymwneud â chostau o ran tai’n cael eu lleihau. Cliciwch yma i gael gwybod mwy.
Help i reoli eich arian
Mae’n rhaid i bob un ohonom fod yn ofalus gyda’n harian o bryd i’w gilydd, ond os ydych yn teimlo bod angen help arnoch i reoli eich arian cliciwch yma i gael gwybod mwy a gweld sut y gallwn eich helpu.
Adnodd cynllunio cyllideb
Dyma adnodd cyllidebu defnyddiol ar-lein i’ch helpu i reoli eich arian. Cliciwch yma i weld sut y gallwch wneud yn fawr o’ch cyllideb.